Capel Uchaf
pentref ym Mhowys, Cymru From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Pentref gwledig yng nghymuned Merthyr Cynog, Powys, Cymru, yw Capel Uchaf[1] (Saesneg: Upper Chapel).[2] Saif yn ardal Brycheiniog wrth lethrau deheuol Mynydd Epynt ar lan afon Honddu, un o ledneintiau pwysicaf afon Wysg.
Lleolir y pentref ar bwys lôn wledig sy'n dringo i gyfeiriad Epynt o Aberhonddu, tua 7 milltir i'r de. Fymryn i'r gogledd o'r pentref mae'r lôn yn fforcio, gydag un ffordd yn mynd i lawr i'r A483 ger Llangamarch a'r brif lôn yn mynd yn ei blaen i Llanfair-ym-Muallt. Y pentrefi cyfagos yw Merthyr Cynog, a gysylltir â'r pentref gan lôn sy'n dringo dros y bryn i'r gorllewin, a Chastell Madog, Capel Isaf, Pwllgloyw, a Llandefaelog Fach i'r de, ar y lôn i Aberhonddu. I'r gogledd ceir Pentref Dolau Honddu.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan James Evans (Ceidwadwyr)[3] ac yn Senedd y DU gan David Chadwick (Democratiaid Rhyddfrydol).[4]
Remove ads
Cyfeiriadau
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads