Caplan
From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Am y pysgodyn, gweler caplan (pysgodyn).
Clerigwr sydd yn cynnal gwasanaethau crefyddol mewn sefydliad sydd fel arall yn seciwlar yw caplan. Ceir caplaniaid mewn ysbytai, ysgolion a phrifysgolion, carchardai, y lluoedd arfog, yr heddlu, y frigâd dân, a busnesau.

Remove ads
Caplaniaid ar y môr

Oherwydd peryglon bywyd ar y môr, mae presenoldeb cynghorwyr crefyddol ar longau wedi cysuro morwyr ers oesoedd yr Henfyd. Mae'n debyg i forwyr Ffenicia a Charthago deithio gydag offeiriaid i alw ar nawdd Asherah, duwies y môr. Aeth daroganwyr ar longau rhyfel y Rhufeiniaid i ddehongli'r argoelion a rhagweld buddugoliaeth neu fethiant yn y frwydr i ddod. Yn yr oes fodern, dynodir caplaniaid yn anymladdwyr yn ôl Confesiynau Genefa.[1]
Remove ads
Cyfeiriadau
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads
