Carson McCullers
From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Nofelydd, dramodydd ac awdures straeon byrion o'r Unol Daleithiau oedd Carson McCullers (Lula Carson Smith) (19 Chwefror, 1917 – 29 Medi, 1967).
Cafodd ei geni yn Columbus, Georgia. Priododd Reeves McCullers ym 1937, a wnaethont ysgaru a phriodi eto. Roedd Carson a Reeves yn ddeurywiol.[1] Roedd y ddau ohonynt hefyd yn ysmygu ac yn yfed alcohol yn drwm. Lladdodd Reeves ei hunan ym 1953. Ar ôl bywyd o iechyd gwael, bu farw Carson McCullers o strôc ym 1967.
Gelwir ei harddull yn aml yn Gothig De'r Unol Daleithiau. Roedd ei gwaith yn enwog am bortreadu trefi unig ac adfeiliedig, ac ymddieithriad cymdeithasol a rhywiol eu trigolion.[1] Yn ôl Michiko Kakutani, beirniad llenyddol The New York Times, prif thema ei ffuglen yw "unigrwydd unigolion ynysedig a'u hawydd llafurus am berthynas".[2] Galwodd Gore Vidal waith McCullers yn "un o'r ychydig o lwyddiannau digonol ein diwylliant eilradd".[3]
Remove ads
Llyfryddiaeth
Nofelau
- The Heart Is a Lonely Hunter (1940)
- Reflections in a Golden Eye (1941)
- The Member of the Wedding (1946)
- Clock Without Hands (1961)
Arall
Cyfeiriadau
Dolenni allanol
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads
