Castellnewydd Emlyn
Tref farchnad yng ngogledd-orllewin Sir Gaerfyrddin From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Tref farchnad a chymuned yng ngogledd-orllewin Sir Gaerfyrddin yw Castellnewydd Emlyn[1] (neu Castellnewi fel y'i gelwir yn lleol); ceir y ffurf Castell Newydd Emlyn hefyd. Saif ar lan ddeheuol Afon Teifi. Weithiau ystyrir pentref Adpar, ar y lan ogleddol yng Ngheredigion, yn rhan o'r dref hefyd, er bod gan Adpar hanes hir fel hen fwrdeistref o fewn Ceredigion. Yno y saif Castell Trefhedyn, hen domen o'r Oesoedd Canol.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Adam Price (Plaid Cymru)[2] ac yn Senedd y DU gan Jonathan Edwards (Annibynnol).[3]
Remove ads
Hanes


Safai Castellnewydd Emlyn yng nghantref Emlyn, ac fe'i henwir ar ôl y cantref hwnnw. Adeiladwyd y castell, sydd nawr yn adfeilion, gan y Normaniaid. Cafodd ei chyfeirio ati gyntaf ym Mrut y Tywysogion ym 1215 pan gipwyd hi gan Llywelyn ap Iorwerth[4].
Ymwelodd Gerallt Gymro ag Emlyn yn ystod ei daith trwy Gymru ym 1188.
Bellach, mae Castellnewydd Emlyn yn dref farchnad brysur.
Remove ads
Cyfleusterau ac atyniadau

Yn y dref mae neuadd tref, oriel gelf, theatr (Attic Theatre) ac ysgol uwchradd (Ysgol Gyfun Emlyn). Lleolir Amgueddfa Wlân Cymru a Rheilffordd Dyffryn Teifi gerllaw.
Yn wahanol i nifer o drefydd gwledig Cymru, mae Castellnewydd Emlyn wedi llwyddo i gadw ystod helaeth o wasanaethau lleol, ar ffurf busnesau teuluol yn bennaf. Lleolir y dref mewn ardal amaethyddol, ac adlewyrchir hyn gan gyflogwr mwyaf y dref, sef ffatri Saputo sy'n cynhyrchu caws Mozzarella. Maen nhw'n un o'r cynhyrchwyr mwyaf o gaws Mozzarella ym Mhrydain.
Remove ads
Y Gymraeg
Hyd at y 1960au, roedd ymhell dros 90% o boblogaeth Castellnewydd Emlyn yn Gymry Cymraeg a'r Gymraeg oedd iaith gwaith ac aelwyd yn y dref. Ond fel mewn sawl rhan arall o'r wlad cafwyd mewnlifiadau sylweddol o bobl o'r tu allan i Gymru, Saeson yn bennaf, ac mae sefyllfa'r iaith wedi newid o ganlyniad. Er hynny, erys y Gymraeg yn iaith y mwyafrif, sef tua 69% o'r boblogaeth o 941, ac fe'i siaredir gan 90% o'r bobl yno a anwyd yng Nghymru (Cyfrifiad 2001).
Gwiber Castellnewydd Emlyn
Mae chwedl Gwiber Castellnewydd Emlyn yn adrodd hanes gwiber ffyrnig gydag adain, a oedd yn anadlu tân a mwg, yn glanio ar furiau'r castell a disgyn i gysgu yno. Ymledodd ofn i gychwyn, ond yn fuan dechreuodd pobl y dref gynllwynio i ddinistrio'r bwystfil. Dyfeisiodd milwr gynllun i rydio i Afon Teifi a cheisio saethu'r Wiber mewn rhan gwan o'i gorff. Disgynnodd y Wiber i'r afon wedi iddo gael ei saethu, gwenwynwyd yr afon gan y corff a lladdwyd yr holl bysgod.[5]
Remove ads
Cyfrifiad 2011
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[6][7][8][9]
Remove ads
Pobl o Gastellnewydd Emlyn
- Evan Herber Evans (1836-96), gweinidog annibynnol.
- Dill Jones (1923-84), pianydd brasgam jas,
- John Jones (Mathetes) (1821-1878). Awdur a gweinidog.
- Peter Rees Jones (1843-1905), sefydlydd siop adrannau.
- Allen Raine (1836-1908), nofelydd.
Gweler hefyd
Cyfeiriadau
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads