Catrin Finch

telynores o Gymraes From Wikipedia, the free encyclopedia

Catrin Finch
Remove ads

Telynores yn wreiddiol o Lanon, Ceredigion, yw Catrin Finch (ganwyd 24 Ebrill 1980).

Ffeithiau sydyn Ganwyd, Dinasyddiaeth ...

Cafodd ei gwersi telyn cyntaf gan Elinor Bennett pan nad oedd ond wyth oed. Bu yn Ysgol Purcell yn Llundain pan oedd yn 16 oed, gan astudio dan law Skaila Kanga, ac aeth ymlaen wedyn i'r Academi Gerdd Frenhinol yn Llundain.

Enillodd Gystadleuaeth Telyn Ryngwladol Lily Laskine yn 1999 un o brif wobrau'r byd i'r delyn, ac enillodd Gyfweliadau Rhyngwladol Artistiaid Cyngerdd Ifanc yn Efrog Newydd. Mae wedi teithio yn eang yn yr Unol Daleithiau.

Mae wedi gweithio gyda Karl Jenkins, Bryn Terfel, James Galway, Julian Lloyd-Webber a Katherine Jenkins.

Cyfansoddodd concerto i'r delyn ar gyfer Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru.[1]

Remove ads

Gyrfa

Fe'i penodwyd yn delynores frenhinol i Dywysog Cymru yn y flwyddyn 2000.

Rhwng 2022 a 2023 hi oedd cyfarwyddwr artisdig MusicFest Aberystwyth.

Bywyd personol

Yn 2003, priododd â Hywel Wigley, mab Dafydd Wigley ac Elinor Bennett. Mae ganddynt ddau o blant.

Gwahanodd oddi wrth ei gŵr yn 2017 ac yn fuan wedyn cafodd ddiagnosis o ganser y fron a chafodd driniaeth yn ystod hanner cyntaf 2018. Mae'n cario y genyn BRCA1 sy'n cynyddu'r risg o gael canser y fron ond penderfynodd beidio cael mastecomi rhai blynyddoedd ynghynt oherwydd prysurdeb ei gyrfa. Wedi'r driniaeth cemotherapi cafodd fastecomi dwbl a llaw-driniaeth i ail-adlunio'r fron.[2]

Priododd ei chymar Natalie yn Ninbych-y-pysgod ar 14 Rhagfyr 2019.[3]

Remove ads

Disgyddiaeth

Cyfeiriadau

Dolenni allanol

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads