Cell (bioleg)

uned greiddiol pob organeb From Wikipedia, the free encyclopedia

Cell (bioleg)
Remove ads

Uned sylfaenol pob organeb fyw yw cell. Y gell yw'r uned fiolegol leiaf sy'n gallu dyblygu'n annibynnol, drwy broses cellraniad. Bioleg cell yw'r gangen o'r gwyddorau bywyd sy'n astudio celloedd. Mae rhai nodweddion cyffredin i bob cell, a nifer o gelloedd arbennig yn dangos nodweddion ychwanegol. Mae i bob cell cytoplasm y tu mewn i gellbilen, sy'n cynnwys biomoleciwlau megis proteinau ac asidau niwclëig.[1] Y gellbilen sy'n amddiffyn y gell ac yn gweithredu fel hidlydd o'i hamgylch, gan adael sylweddau i ddianc o'r gell neu ddod i mewn iddi trwy broses o drylediad neu osmosis. Cludir sylweddau hanfodol ar draws y gellbilen trwy gludiant actif, sef proses sy'n defnyddio ynni i symud sylwedd yn erbyn y graddiant crynodiad. Mae i bob cell hefyd DNA sy'n cynnwys ei wybodaeth genetig. Yn ogystal â chellraniad, mae tasgau cyffredin sylfaenol y gell yn cynnwys metabolaeth, sy'n newid defnydd newydd i ynni ac yn gwaredu defnydd gwastraff, a synthesis protinau trwy drawsgrifio DNA i mRNA ac mRNA i brotinau.

Ffeithiau sydyn Enghraifft o:, Math ...
Thumb
Celloedd ym mlaenwreiddyn y nionyn.

Dosbarthir organebau yn fodau ungellog ac amlgellog. Organebau ungellog procaryotig megis bacteria oedd y ffurf gyntaf ar fywyd ar y Ddaear. Mae planhigion, anifeiliaid, ffyngau, protosoaid, llwydni llysnafeddog, ac algâu i gyd yn ewcaryotau. Gall ewcaryot fod yn ungellog neu'n amlgellog, ond y peth sy'n ei hynodi yw'r cnewyllyn. Amrywia'r nifer o gelloedd o un rywogaeth i'r llall, er enghraifft mwy na 10 triliwn (1012) sydd gan y corff dynol.[2] Mae angen microsgop i weld y mwyafrif o gelloedd planhigion ac anifeiliaid, sy'n mesur rhwng 1 a 100 micrometr.[3]

Remove ads

Adeiledd cell

Thumb
Diagram syml o gell anifail:
  1. Cytoplasm
  2. Cnewyllyn
  3. Cellbilen
  4. Mitocondrion
Thumb
Diagram syml o gell planhigyn:
  1. Cytoplasm
  2. Cnewyllyn
  3. Cellbilen
  4. Mitocondrion
  5. Cellfur
  6. Gwagolyn
  7. Cloroplast
Thumb
Diagram syml o gell burum (ffwng):
  1. Cytoplasm
  2. Cnewyllyn
  3. Cellbilen
  4. Mitocondrion
  5. Cellfur
  6. Gwagolyn

Mae celloedd anifeiliaid a chellau blanhigion dipyn yn wahanol, ond dyma'r prif organynnau:

  • Celloedd anifeiliaid a phlanhigion
    • Y cellbilen o gwmpas y gell sy'n cadw'r cyfan wrth ei gilydd
    • Y cnewyllyn mae'n cynnwys y cromosomau gyda'r DNA
    • Y cytoplasm o gwmpas y cnewyllyn ac i mewn y pilen
    • Y gwagolyn cell llawn hylif
    • Y mitocondria sy'n cynhyrchu ynni
    • Y ribosom sy'n trawsgrifio mRNA
  • Celloedd Planhegion
Remove ads

Hanes y ddamcaniaeth

Y tro cyntaf i rywun ddod o hyd i gelloedd oedd ym 1665 pan ddarganfu Robert Hooke gelloedd pren corc ac wedyn celloedd planhigion byw. Roedd yn defnyddio'r un o'r microsgopau cyntaf i wneud hynny ac erbyn 1675 roedd Anton van Leeuwenhoek yn dadansoddi gwaed a deunydd cyffelyb.

Yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg darganfu Theodor Schwann gelloedd anifeiliaid a phlanhegion. Darganfu Louis Pasteur nad yw'r celloedd yn dod o'r dim (generatio spontanea) - a Rudolf Virchow fod pob cell yn geni o gell arall (omni cellula ex cellula).

Remove ads

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads