Tsierocïaid

From Wikipedia, the free encyclopedia

Tsierocïaid
Remove ads

Grŵp ethnig o frodorion Gogledd America yw’r Tsierocïaid neu Cherokee. Daw’r gair hwn o’r iaith Siocto "Cha-la-ke", sy’n golygu "y rhai sy’n byw yn y mynyddoedd". Yn wreiddiol roedd y Tsierocïaid yn eu galw eu hunain yn Ah-ni-yv-wi-ya ("Y brif pobl"). Maent yn siarad Cherokee, iaith Iroquoiaidd, sy’n defnyddio orgraff a ddyfeisiwyd gan Sequoyah.

Ffeithiau sydyn Enghraifft o:, Math ...
Thumb
Baner Cenedl y Tsierocïaid
Thumb
Bachgen a merch Tsierocî yng Ngogledd Carolina

Pan ddaethant i gysylltiad ag Ewropeaid gyntaf yn y 1600au roeddynt yn byw yn nwyrain a de-ddwyrain yr Unol Daleithiau presennol, yn enwedig taleithiau Georgia, Gogledd Carolina a De Carolina. Ystyrid hwy yn un o’r Pum Llwyth Gwâr. Yn y 1830au, a phoblogaeth Ewropeaidd y tiriogaethau hyn yn cynyddu’n gyflym, gorfodwyd y rhan fwyaf ohonynt i symud tua’r gorllewin i Lwyfandir Ozark yn Llwybr y Dagrau.

Yn ôl cyfrifiad 2000 yr Unol Daleithiau, y Tsierocïaid yw’r mwyaf niferus o’r 563 llwyth brodorol yn y wlad ac mae'r rhan fwyaf ohonynt yn byw yn Oklahoma. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae dadlau wedi bod dros gydnabod disgynyddion caethwesion duon fu gan y Tsierocïaid yn y cyfnod cyn Rhyfel Cartref America fel aelodau o Genedl y Tsierocî.

Fe'i hadwaenir yn nawddoglyd fel un o'r Pum Llwyth Gwâr.

Remove ads

Tsierocïaid enwog

  • Sequoyah, dyfeisydd orgraff yr iaith Tsierocî
  • Elias Boudinot, gwleidydd ac awdur
  • Ned Christie
  • Will Rogers
  • Jimi Hendrix, canwr o dras Tsierocïaid trwy ei nain

Gweler hefyd

Dolenni allanol

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads