Sequoyah

From Wikipedia, the free encyclopedia

Sequoyah
Remove ads

Un o enwau mawrion yn hanes pobl frodorol America ac ieithyddiaeth oedd Sequoyah (Saesneg: George Gist neu George Guess (c. 1770 — Awst 1843). Creodd Sequoyah orgraff (system o wyddor) i'r iaith Cherokee, er iddo fod yn anllythrennog ei hun pan gychwynodd ar y gwaith.

Ffeithiau sydyn Ganwyd, Bu farw ...

Mae'r ffaith fod heliwr a chrefftwr anllythrennog yn gallu cyflawni tasg a ystyrir ond yn faes ieithyddion arbenigol yn cael ei ystyried fel un o gampau deallusol mwyaf trawiadol a gyflawnwyd erioed.[1]

Remove ads

Yr wyddor Cherokee

Thumb
Orgraff Sequoyah i’r iaith Cherokee

Daeth Sequoyah i'r casgliad mai'r gallu i ysgrifennu a darllen oedd yr allwedd i rym pobl wynion dros frodorion America a oedd yn methu ysgrifennu neu ddarllen yn eu hieithoedd eu hunain.

Ym 1809 aeth ati i greu wyddor i'r iaith Cherokee. Wedi 12 mlynedd o waith, yn 1821, cyhoeddodd ei waith.

Mabwysiadwyd yr wyddor gan y bobl Cherokee ym 1825. Yn fuan wedyn, cyhoeddwyd llyfrau a phapurau newydd yn yr iaith Cherokee gyda’i wyddor ef. Cenhadwr o Gymro o'r enw Evan Jones gyfieithodd y Beibl i'r iaith Cherokee gan ddefnyddio’r wyddor hon.

Cododd lefel llythrennydd y bobl Cherokee yn uwch na'r mewnfudwyr o dras Ewropeaidd o’u hamgylch. Defnyddir yr wyddor hyd heddiw heb ei newid.[2]

Thumb
Papur newydd y Cherokee Phoenix, 1828

Bu cryn sylw i'r wyddor Cherokedd a chyrhaeddodd newyddion amdani'n bell.

Bu’n ysbrydoliaeth i nifer o bobloedd eraill i fynd ati i ddatblygu llythrennedd yn eu hieithoedd hefyd.[3]

Remove ads

Taith olaf Sequoyah

Breuddwydiodd Sequoyah o weld y Genedl Cherokee yn unedig undwaith eto, wedi iddynt gael eu trechu a rhoi ar chwâl wrth i bobl gwynion cipio eu tiroedd.

Ym 1842 dechreuodd Sequoya daith i chwilio am bobloedd Cherokee a oedd wedi ffoi'r holl ffordd i Mecsico a’u perswadio i ddychwelyd i’w hen gynefin yn yr Unol Daleithiau.

Bu farw ar y daith a chredir iddo gael ei gladdu wrth dref Zaragoza ger ffin Mecsico-Texas.

Remove ads

Coeden Sequoyah

Dywedir i’r goeden Sequohah (Lladin: Sequoiadendron giganteum) - goeden fwyaf America - gael ei enwi i’w anrhydeddu.[4]

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads