Chwe Chloch
pentref ym Mlaenau Gwent From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Pentref yng nghymuned Abertyleri, Blaenau Gwent, Cymru, yw Chwe Chloch (Saesneg: Six Bells).[1][2] Fe'i lleolir i'r de o dref Abertyleri ger Aber-bîg.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Alun Davies (Llafur Cymru) ac yn Senedd y DU (San Steffan) gan Nick Smith (Llafur).[3][4]
Yn ôl Cyfrifiad y Deyrnas Unedig 2011, mae 7.1% o boblogaeth yr ardal yn gallu siarad Cymraeg. Yn ôl pob sgil, mae 170 o bobl yn gallu siarad Cymraeg, mae 156 yn gallu darllen Cymraeg, ac mae 137 yn gallu ysgrifennu Cymraeg. Roedd 9.4% yn medru'r Gymraeg yn 2001.[5]
Remove ads
Damwain yng Nglofa'r Chwe Chloch
Ar 28 Mehefin 1960 cafwyd ffrwydriad a laddodd 45 o weithwyr. Bellach, trowyd y fan yn ardal gelf, i gofio am y rhai a laddwyd. Cynlluniwyd y gwaith gan Sebastian Boyesen. Mae'r gofeb hefyd yn symbol o lowyr eraill a fu farw mewn ffrwydriadau tebyg drwy Dde Cymru.
Cyfeiriadau
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads

