Chwitffordd
pentref yn Sir y Fflint From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Pentref bychan, cymuned a phlwyf eglwysig yn Sir y Fflint, Cymru, yw Chwitffordd[1][2] ( ynganiad ) (Saesneg: Whitford). Mae'n gorwedd tua 4 milltir i'r gorllewin o Dreffynnon a 2 filltir i'r de o Fostyn.
- Am enghreiftiau eraill o'r ffurf Saesneg ar yr enw, gweler Whitford.
Daw'r enw Cymraeg o'r enw Saesneg Whitford (naill ai "Rhyd Lydan" neu "Rhyd Wen"). Cofnodir y ffurf Widford yn Llyfr Dydd y Farn (1086)[3] ac ymddengys fod y pentref wedi ei sefydlu gan yr Eingl-Sacsoniaid pan fu'r rhan yma o Gymru ym meddiant teyrnas Mersia. Ond adenillwyd y tir gan y Cymry a chafwyd y Cymreigiad Chwitffordd. Cofnodir yr enghraifft gynharaf o'r ffurf Gymraeg mewn dogfen sy'n dyddio i 1284.[4]
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Hannah Blythyn (Llafur) ac yn Senedd y DU (San Steffan) gan Becky Gittins (Llafur).[5][6]
Remove ads
Hanes
Ganwyd yr hynafiaethydd a naturiaethwr enwog Thomas Pennant ym mhlasdy Downing, ger y pentref, yn 1726. Ysgrifennodd Pennant gyfrol ar hanes a hynafiaethau Chwitffordd a'r cylch.
Pennant oedd un o'r awduron cyntaf i roi disgrifiad llawn o garreg Maen Achwyfan a'i groes Geltaidd gynnar, sy'n gorwedd tua milltir i'r gorllewin o Chwitffordd, ar y ffordd i Drelogan. Mae'r garreg yn dyddio'n ôl i'r 11g.
Ym mis Rhagfyr 1886,cafwyd gwrthdaro oedd yn rhan o Ryfel y Degwm ble roedd torf o 1,000 i 1,500 yn bresennol. Daeth Dirprwy Prif Gwnstabl Sir y Fflint yno gyda 80 o'r heddlu i geisio amddiffyn yr arwerthwr a'i swyddogion.
Remove ads
Cyfrifiad 2011
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[7][8][9][10]
Remove ads
Cyfeiriadau
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads