Cilium
dinas Rufeinig ger Kasserine yn Nhiwnisia From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Dinas Rufeinig yn Nhiwnisia yw Cilium. Fe'i lleolir fymryn i'r de-orllewin o ddinas Kasserine yn y dalaith o'r un enw, yng ngorllewin canolbarth y wlad tua 30 km o'r ffin ag Algeria.
Bu Cilium yn ganolfan ranbarthol o bwys yn nhalaith Affrica yng ngyfnod y Rhufeiniaid. Saif ar fryn isel ger afon Oued Dhrib. Ceir adfeilion theatr Rufeinig fawr yno, wedi'i cherfio yn llethr y bryn, a bwa fuddugoliaeth. Maent yn dyddio o'r 3g OC. Yn ogystal ceir adfeilion y fforwm a'r capitol, a'r baddonau cyhoeddus. Ceir ambell heneb o'r cyfnod Rhufeinig yn ninas Kasserine ei hun, yn cynnwys Mawsolewm y Flavii, a godwyd fel cofeb i Flavius Secundus a'i deulu.[1]
Ar ôl i'r Rhufeiniaid ymadael codwyd caer yn Cilium gan y Bysantiaid.[2]
Remove ads
Cyfeiriadau
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads
