Clydno Eidyn
tywysog neu bendefig o'r Hen Ogledd (525–597) From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Tywysog neu bendefig o'r Hen Ogledd oedd Clydno Eidyn (fl. 6g). Yn rhai o'r achau, disgrifir ef fel mab Cynfelyn ap Dyfnwal Hen, tra yn y testun achyddol Bonedd Gwŷr y Gogledd disgrifir ef fel mab i Cynwyd Cynwydion. Awgryma ei enw y gallai fod yn arglwydd Din Eidyn, ac efallai yn rhagflaenydd Mynyddog Mwynfawr.
Remove ads
Hanes a thraddodiad
Roedd ganddo fab o'r enw Cynon ap Clydno Eidyn, ac yn chwedl Culhwch ac Olwen crybwyllir merch iddo o'r enw Eurneid. Yn ôl Bonedd y Saint, ei ferch Euronwy oedd mam Grwst, nawddsant Llanrwst.
Yn Llyfr Du'r Waun, dywedir i Elidir Mwynfawr gael ei ladd yn "Aber Meuhedud" yn Arfon, ac i nifer o Wŷr y Gogledd, yn cynnwys Clydno Eidyn, Nudd Hael, Mordaf Hael a Rhydderch Hael arwain byddin i Arfon i geisio dial, ond iddynt gael eu gorchfygu gan Rhun ap Maelgwn Gwynedd.
Remove ads
Llyfryddiaeth
- Peter C. Bartrum (1993) A Welsh classical dictionary (Llyfrgell Genedlaethol Cymru) ISBN 0-907158-73-0
Cyfeiriadau
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads