Llanrwst

tref a chymuned ym mwrdeistref sirol Conwy From Wikipedia, the free encyclopedia

Llanrwst
Remove ads

Tref fechan a chymuned ym mwrdeistref sirol Conwy, Cymru, yw Llanrwst.[1][2] Saif ar lan ddwyreiniol Afon Conwy, tri chwarter y ffordd i fyny Dyffryn Conwy ar lôn yr A470. Mae Caerdydd 188.8 km i ffwrdd o Lanrwst ac mae Llundain yn 308.8 km. Y ddinas agosaf ydy Bangor sy'n 25 km i ffwrdd.

Ffeithiau sydyn Math, Poblogaeth ...

Mae Rheilffordd Dyffryn Conwy yn cysylltu'r dref â Llandudno yn y gogledd a Blaenau Ffestiniog yn y de. Tyfodd y dref o gwmpas y diwydiant gwlân ac roedd y dref yn adnabyddus am ei brethyn. Roedd gwneud telynnau yn ddiwydiant poblogaidd yno hefyd ac roedd galw mawr am gynnyrch gwneuthurwyr telynnau Llanrwst ledled Cymru. Erbyn heddiw twristiaeth yw'r prif ddiwydiant ynghyd ag amaethyddiaeth. Lleolir Gwasg Carreg Gwalch, un o gyhoeddwyr llai mwyaf llwyddiannus Cymru, yn y dref.

Remove ads

Hanes

Yn 1276 cipiodd Llywelyn ap Gruffudd, Tywysog Cymru, y dref, gan ddatgan ei bod yn "fwrdeistref rydd" yn annibynnol o esgobaeth Llanelwy. O'r herwydd mae gan y dref ei arfbais a'i baner ei hun, a dyma darddiad yr hen arwyddair lleol "Cymru, Lloegr a Llanrwst".[3]

Codwyd Y Bont Fawr dros Afon Conwy yn 1636. Y pensaer oedd Inigo Jones, yn ôl traddodiad. Yr ochr draw i'r bont mae plasdy Tu Hwnt i'r Bont.

teithiol yn Llanrwst:

20 Awst 1949: ”Tori ŷd hefo pladur yn y bore ar pnawn yn cae tan wal, torri lle ir injan. Gafra a chodi geifr. Mynd i Llanrwst gyda’r nos i weld ffilm Tap Rootes. Sioe yn parc Gwydr llew a llewes. Arth ddu Himalayan, mwncïod a llygoden fawr o dociau Caerdydd 28 ins o hyd. Poeth, mwll clos.“[4]
Remove ads

Adeiladau a chofadeiladau

Eglwys Sant Grwst

Adeiladwyd adeilad presennol Eglwys Sant Grwst, sy'n gysegredig i Sant Grwst, yn 1470, ond mae'r safle'n hŷn na hynny. Yn yr eglwys mae Capel Gwydir ac yno ceir cist arch garreg Llywelyn Fawr, Tywysog Gwynedd, a symudwyd yno o Abaty Aberconwy. Yno hefyd mae beddrod cerfiedig sy'n coffháu Hywel Coetmor, un o gapteiniaid Owain Glyndŵr.

Thumb
Eglwys Sant Grwst

Y Bont Fawr

Enw arall ar y bont hon ar lafar yn lleol yw 'Pont Rhegi' gan ei bod yn amhosibl i ddau gerbyd basio'i gilydd ar yr un pryd am fod y bont mor gul. Oherwydd ei bod yn bont gefngrwm, mae mynd yn ôl yn anodd os nad yn amhosib i lawer. Ceir trydydd enw hefyd sef 'Pont y Perlau' oherwydd yn ôl traddodiad cafwyd hyd i berl yn yr afon pan oeddynt yn gosod y garreg sylfaen.[5]

Thumb
Y Bont Fawr, Llanrwst
Thumb
Tu Hwnt i'r Bont
Remove ads

Cyfrifiad 2011

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[6][7][8]

Rhagor o wybodaeth Cyfrifiad 2011 ...

Enwogion

Thumb
11 o feirdd a bwch gafr yn 1876: gweler Arwest Glan Geirionydd


Remove ads

Eisteddfod Genedlaethol

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn Llanrwst ym 1951, 1989 a 2019. Am wybodaeth bellach gweler:

Oriel

Llanrwst o'r awyr, dan lifogydd Rhagfyr 2015

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads