Atropa belladonna
From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Planhigyn llysieuaidd lluosflwydd gwenwynol yw Atropa belladonna, hefyd a elwir yn Codwarth[1] yn Gymraeg (Saesneg: Belladonna a Deadly nightshade). Mae'n perthyn i'r teulu Solanaceae,[2] sydd hefyd yn cynnwys tomatos, tatws, ac wylysiau. Mae'n gynhenid i Ewrop a Gorllewin Asia, gan gynnwys Twrci. Mae'r amrywiaeth fwyaf i'w chael yng nghanolbarth a de America, fodd bynnag.
Mae'r dail ac aeron yn wenwynol iawn i'w bwyta oherwydd eu bod yn cynnwys alcaloid tropên.[2][3][4][5] Mae'r tocsinau hyn yn cynnwys atropin, sgopolamin, ac hyosÿamin, sy'n achosi deliriwm a rhithweledigaethau,[2][3][4][6][7] a hefyd a ddefnyddir yn wrthgolinergigau fferyllol.[2]
Remove ads
Geirdarddiad ac enwau eraill
Mae'r enw Cymraeg Codwarth yn dod o cedor a gwrach. Llysiau moch, llysiau'r moch, y morel marwol, rhawn y march,[8] a Ceirios y Gŵr Drwg[1] ydy enwau Cymraeg eraill sydd ar y planhigyn hwn.
Gweler hefyd
- Y Bywiadur Gwefan Llên Natur
Cyfeiriadau
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads
