Coleg Celf a Dylunio Central Saint Martins

Coleg celf a dylunio o fewn Prifysgol y Celfyddydau, Llundain From Wikipedia, the free encyclopedia

Coleg Celf a Dylunio Central Saint Martins
Remove ads

Mae Coleg Celf a Dylunio Central Saint Martins (enw llawn swyddogol: Central Saint Martins College of Arts and Design a elwir yn Central Saint Martins, CSM neu ar lafar St Martin's College) yn goleg ymchwil o fewn Prifysgol y Celfyddydau Llundain. Mae gan yr ysgol enw da fel coleg rhagorol yn rhyngwladol, ac mae'n un o sefydliadau celf a dylunio mwyaf blaenllaw'r byd.[1]

Ffeithiau sydyn Enghraifft o:, Dechrau/Sefydlu ...

Mae'r ysgol yn cynnig addysg sylfaenol, israddedig a graddedig. Y prif feysydd astudio yn CSM yw ffasiwn, tecstilau, celfyddydau gweledol a graffeg, dylunio cynnyrch a diwydiannol, pensaernïaeth a chelfyddydau perfformio (drama a dylunio llwyfan).[2]

Remove ads

Sefydliad

Rhennir Central Saint Martins yn bum cyfadran. Mae'r rhan fwyaf wedi'u lleoli ar gampws mawr newydd yr ysgol yn King's Cross, tra bod rhai gweithgareddau wedi'u lleoli yn Clerkenwell (campws Back Hill) ac Archway.

Cyfadrannau:

  • Ysgol Gelf
  • Ysgol Ffasiwn a Thecstilau
  • Ysgol Dylunio Graffig a Diwydiannol
  • Canolfan Ddrama Llundain
  • Ysgol Gelf Byam Shaw

Hanes

Sefydlwyd y Central School of Art and Design (y Central School of Arts and Crafts gynt) gan Gyngor Sir Llundain ym 1896 i ddarparu addysg gelf arbenigol i weithwyr yn y diwydiant celf. Bwriadwyd i'r ysgol wasanaethu fel canolfan addysg celf, lle gallai myfyrwyr gwrdd ag artistiaid a chyflogwyr sefydledig. Roedd hyn yn rhan o'r Mudiad Celf a Chrefft ym Mhrydain ar ddiwedd y 19g. Unwyd yr Ysgol Gelf Frenhinol i Fenywod, a sefydlwyd ym 1842, â’r Central School of Art and Design ym 1908.

Sefydlwyd Ysgol Gelf Sant Martin ym 1854 gan fwrdd ymddiriedolwyr eglwys enwog St. Martin-in-the-Fields, gyda'r nod o ddatblygu addysg ddiwydiannol a'i huno â'r addysg gyffredinol a ddarperir gan yr ysgolion eglwysig. Gwelwyd addysg gelf fel rhan o addysg ddiwydiannol prentisiaid. "Daeth Coleg St. Martin's yn annibynnol ar yr eglwys ym 1859, a chymeradwywyd ef gan Gyngor Sir Addysg Dechnegol Llundain ym 1894. Yn y pen draw, daeth yr ysgol i gael ei chydnabod yn un o'r ysgolion celf mwyaf blaenllaw, lle cafodd llawer o arlunwyr gorau'r cyfnod eu haddysg.[3]

Unodd Central School of Art and Design a "St. Martins" ym 1989. Yn hydref 2011, unwyd y rhan fwyaf o safleoedd niferus yr ysgol yn gampws cyffredin mawr yn King's Cross yng ngogledd canol Llundain.

Remove ads

CSM a diwylliant poblogaidd

Gwnaeth y band pync y Sex Pistols eu hymddangosiad cyhoeddus cyntaf yn adeilad presennol Coleg St Martin's yn Charing Cross Road ar 6 Tachwedd 1975.[4]

Rhyddhaodd y band roc amgen Saesneg, Pulp, y gân "Common People" ym 1995. Mae geiriau'r gân yn dechrau gyda:[5]

"She came from Greece she had a thirst for knowledge, // she studied sculpture at Saint Martin's College, // that's where I, // caught her eye."

Mae’r gân wedi’i hysbrydoli’n rhannol gan brofiadau’r canwr Pulp Jarvis Cocker, ei hun fel myfyriwr yn CSM rhwng 1988-91.

Cyn fyfyrwyr enwog

Detholiad o'r cyn-fyfyrwyr enwog bu'n astudio yn y Coleg:

Remove ads

Cyfeiriadau

Dolenni allanol

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads