Colomen graig
rhywogaeth o adar From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Aderyn a rhywogaeth o adar yw Colomen graig (sy'n enw benywaidd; enw lluosog: colomennod craig) a adnabyddir hefyd gyda'i enw gwyddonol Columba livia; yr enw Saesneg arno yw Feral rock pigeon. Mae'n perthyn i deulu'r Colomennod (Lladin: Columbidae) sydd yn urdd y Columbiformes.[1] Dyma aderyn sydd i'w gael yng ngwledydd Prydain, ond nid yng Nghymru.
Talfyrir yr enw Lladin yn aml yn C. livia, sef enw'r rhywogaeth.[2]
Maent yn byw mewn cynefinoedd creigiog ar draws Ewrop, rhannau o Asia a gogledd Affrica. Mae Colomennod Dof yn tarddu o Golomen y Graig. Mae llawer o adar dof wedi dianc i'r gwyllt gan ffurfio poblogaethau o Golomennod y Dref sydd wedi ymgartrefu mewn dinasoedd a threfi ac ar glogwyni ledled y byd. Mae Colomennod y Dref wedi disodli'r adar gwyllt mewn rhai rhanbarthau megis Cymru.[3]

Mae Colomen y Graig yn 31–34 cm o hyd ac mae'n pwyso 230-370 g.[4] Mae adar gwyllt yn llwydlas gyda chrwmp gwyn a dwy linell ddu ar yr uwch-adain.[5] Mae Colomennod Dof a Cholomennod y Dref yn amrywio'n fawr o ran lliw.
Remove ads
Teulu
Mae'r colomen graig yn perthyn i deulu'r Colomennod (Lladin: Columbidae). Dyma rai o aelodau eraill y teulu:
Rhestr Wicidata:
Diwedd y rhestr a gynhyrchwyd yn otomatig o Wicidata.

Remove ads
Gweler hefyd
Cyfeiriadau
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads












