COVID-19
haint sy'n effeithio'r ysgyfaint a achosir gan SARS coronafirws 2 From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Sylw!
Nid yw Wicipedia yn darparu cyngor meddygol nac iechyd. Gall yr erthygl hon gynnwys gwybodaeth hen ffasiwn neu anghywir. Dim ond gweithiwr iechyd proffesiynol sy'n gallu rhoi cyngor meddygol i chi, a dim ond awdurdodau iechyd eich gwlad sy'n gymwys i roi cyfarwyddiadau iechyd cyhoeddus yn ymwneud â phandemig y Gofid Mawr.
Clefyd heintus a ddaeth i'r amlwg yn Rhagfyr 2019 yw COVID-19 sy'n fyr am "coronavirus disease 2019"; bathiad Cymraeg - y Gofid Mawr[1]. Gellir olrhain yr achos cyntaf nôl i 17 Tachwedd 2019 yn Hubei.[2] Y firws sydd wrth wraidd yr haint yw'r SARS-CoV-2, ac wrth i'r clefyd yma ymledu drwy'r byd, esgorodd ar bandemig coronafeirws 2019–20. Erbyn 30 Mehefin 2020 roedd dros 1,500 wedi marw yng Nghymru, dros 43,500 drwy wledydd Prydain a thros 505,000 yn fyd-eang.[3][4].
- Erthygl am yr haint a achoswyd gan SARS-CoV-2 yw hon.
- Am y firws penodol a achosodd yr epidemig, gweler SARS-CoV-2.
- Am y grŵp o erthyglau mae'r firws yn perthyn iddo, gweler: Coronafirysau
- Am y pandemig, gweler yr erthygl Pandemig COVID-19.
Canfuwyd y clefyd yn gyntaf yn 2019 yn Wuhan, Tsieina, ac ers hynny mae wedi lledaenu’n fyd-eang, gan arwain at bandemig.
Mae symptomau cyffredin yn cynnwys twymyn (gorboethi, peswch ac anhawster anadlu, gyda phoen yn y cyhyrau, fflem ac fel arfer, dolur gwddf. Er bod mwyafrif yr achosion yn arwain at symptomau ysgafn, mewn rhai achosion ceir niwmonia difrifol ac organau'r corff yn methu.[5][6][7][8]
Mae cyfradd y marwolaethau allan o'r holl achosion a ddiagnosiwyd ar gyfartaledd yn 3.4%. Ceir cryn amrywiaeth, gyda 0.2% yn y rhai iau nag 20 oed, i oddeutu 15% yn y rhai dros 80 oed.[9][10] Fel arfer, mae'r haint yn cael ei ledaenu o un person i'r llall trwy ddefnynnau heintus yn cael eu hanadlu, ee drwy besychu neu disian. Mae'r amser rhwng dod i gysylltiad â symptomau a'r symptomau yn ymddangos, yn gyffredinol, rhwng dau a 14 diwrnod, gyda phum diwrnod ar gyfartaledd.[11][12]

Remove ads
Symptomau
Mae llawer yn datblygu symptomau tebyg i ffliw gan gynnwys twymyn, peswch, a diffyg anadl. Yn llai cyffredin, gellir gweld symptomau anadlu fel tisian, trwyn yn rhedeg, neu ddolur gwddf. Gwelir symptomau fel cyfog, chwydu a dolur rhydd mewn nifer bychan o achosion, ac yn rhai o'r achosion cychwynnol yn Tsieina gwelwyd symptomau cardiaidd yn unig, fel tyndra'r frest a chrychguriadau (palpitations).[14] Mewn rhai achosion eithafol, gall y clefyd ddatblygu i niwmonia, methiant aml-organau, a hyd yn oed marwolaeth.

Fel sy'n gyffredin â heintiau, ceir cyfnod o oedi rhwng yr adeg pan fo'r person wedi'i heintio â'r firws a'r adeg pan fyddant yn datblygu symptomau; gelwir y cyfnod hwn yn "gyfnod deori". Y cyfnod deori ar gyfer COVID-19 fel arfer yw pump i chwe diwrnod ond gall amrywio o ddau i 14 diwrnod. Gellir cymharu'r cyfnod dear hwn gyda chyfnod deor firysau eraill:[15]

Mae symptomau plant yn llawer mwynnach. Dangosodd adroddiad gan Ganolfan Tsieineaidd ar gyfer Rheoli ac Atal Clefydau, fod un o bob pedwar plentyn a brofodd yn bositif yn parhau heb unrhyw symptom, ar wahân i symptomau mwyn, megis peswch, 'erythema ffaryngeall' a thwymyn.[16]
Remove ads
Atal yr haint
Ymhlith y mesurau a argymhellir i atal haint mae golchi dwylo'n aml, cadw pellter oddi wrth eraill, a pheidio â chyffwrdd yr wyneb. Argymhellir defnyddio masgiau ar gyfer y rhai sy'n amau bod y firws arnynt a'r rhai sy'n rhoi gofal, ond nid y cyhoedd.[17] Nid oes brechlyn na thriniaeth gwrthfeirysol benodol ar gyfer COVID-19. Mae rheolaeth yn cynnwys trin symptomau, gofal, ynysu a mesurau arbrofol.[18][19]
Remove ads
Gweler hefyd
Dolenni allanol
Cyfeiriadau
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads