Crymlyn
tref a chymuned ym mwrdeisdref sirol Caerffili yn ne Cymru From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Tref a chymuned ym Mwrdeistref Sirol Caerffili, Cymru, yw Crymlyn[1] (Saesneg: Crumlin).[2] Saif yn nyffryn Afon Ebwy, bum milltir i'r gorllewin o dref Pont-y-pŵl, o fewn dim i'r ffin â Sir Fynwy.
- Erthygl am y dref ym mwrdeistref sirol Caerffili yw hon. Ceir mannau eraill sy'n dwyn yr enw 'Crymlyn' drwy Gymru.
Mae'r dref yn enwog am y bont reilffordd, a agorwyd yn 1857 ac a gaewyd yn 1964. Hon oedd y bont reilffordd uchaf ym Mhrydain ar hyd y cyfnod yma; roedd yn 220 troedfedd o uchder a 1,650 troedfedd o hyd. Bu raid chwalu'r bont yn 1967, gan ei bod mewn cyflwr peryglus. Cyn ei dymchwel, ffilmiwyd golygfeydd ar gyfer y ffilm Arabesque gyda Sophia Loren a Gregory Peck.
Roedd cangen Crymlyn o Gamlas Sir Fynwy a Brycheiniog yn diweddu yma. Llanwyd y rhahn yma o'r gamlas yn niwedd y 1960au, i adeiladu'r briffordd A465. Caeodd gwaith glo'r Naviigation yn 1967. Cafwyd rhywfaint o ddiwydiant newydd; Crymlyn yw canolfan cynhyrchu Pot Noodle.
Remove ads
Geirdarddiad
Gair cyfansawdd yw 'Crymlyn' (a'r hen sillafiad 'Crymlin' a 'Chrimlyn'): 'crwm' a 'llyn' (llyn gyda thro), ac fe'i nodwyd yn gyntaf yn 1630.[3] Daw'r enw o enw fferm, a phont dros Afon Ebwy, a leolir ger tro yn yr afon; cofnodir yr enw ""Pont Grymiyn" yn 1631.
Ceir "Tyddyn Crymlyn" yn Arfon, "Pont Grymlyn" a "Rhyw Crynlin" ger Tredegar, a "Chremelyn" (1319) a "Thir Pont Crimlin" ym Mro Morgannwg.[4]
Remove ads
Cyfrifiad 2011
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[5][6][7][8]
Remove ads
Gweler hefyd
Cyfeiriadau
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads

