Cog
rhywogaeth o adar From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Aderyn sy'n aelod o Urdd y Cuculiformes yw'r gog (lluosog: cogau) neu'r gwcw (lluosog: cwcwod) (Cuculus canorus). Enw'r teulu yw Cuculidae (teulu'r cogau).[1][2]


Mae'r gog yn nythu ar draws rhannau helaeth o Ewrop ac Asia, ac yn gaeafu yn Affrica. Un o nodweddion enwocaf yr aderyn yw ei fod yn dodwy ei wyau yn nyth rhywogaeth arall o aderyn, yn arbennig Llwyd y Gwrych, Corhedydd y Waun a Telor y Cyrs. Enw arall ar Gorhedydd y Waun yw "Gwas y Gog". Gall cyw'r gog daflu'r cywion eraill o'r nyth, i sicrhau ei fod ef yn cael yr holl fwyd.
Mae'n aderyn cymharol fawr, llwyd o ran lliw, a gall edrych yn debyg iawn i aderyn ysglyfaethus o gael cipolwg arno'n hedfan. Daw'r enw "cwcw" o alwad yr aderyn.
Er fod y gog yn parhau yn aderyn cymharol gyffredin yng Nghymru, mae ei niferoedd wedi gostwng dros yr ugain mlynedd diwethaf. Mae'n cyrraedd o Affrica tua chanol Ebrill fel rheol, ac mae clywed y gog yn cael ei ystyried yn arwydd o wanwyn. Caiff Clychau'r Gog eu henw oherwydd eu bod yn blodeuo yn yr un cyfnod.
Remove ads
Llên
- Wrth glywed y gog yn canu Eira Mawr 17 Mai 1935, canodd y bardd Ioan Brothen[3] ar ôl cyfnod o eira hwyr.
- Hynod wrol aderyn - yn y storm
- Cenaist ti heb ddychryn;
- Methodd iâ ac eira gwyn
- Niweidio dy ddau nodyn
- Hynod wrol aderyn - yn y storm
- Ffordd o ddweud....heb ddweud!
- Llwydcoed Notes. BY MARCELLO. Jim declares that he heard the cuckoo late on Saturday night [18 Mawrth 1916]. On the previous Saturday night he had seen two milestones close together on Hirwain Road[4]
Remove ads
Statws y boblogaeth
Cymru
Y 19eg ganrif
Y gog yn gyffredin ymhoban yn ôl Forrest[5]
Yr 20ed ganrif
Ceir cogau o'r cynefinoedd uchaf i lawr i'r twyni tywod arfordirol er iddynt weld trai sylweddol ers y 1950au, oherwydd newidiadau yn y drefn amaethyddol sydd wedi effeithio yn uniongyrchol ar y cogau ond hefyd ar yr adar lletyol sydd yn eu cynnal. Roedd difrifoldeb y trai yng Nghymru yn ôl Lovegrove ac eraill yn anodd i'w asesu oherwydd diffyg data penodol[6].
Yr 21ain ganrif

Yn ystod cyfnod unigryw Cofid-19 yng ngwanwyn 2020 pan gafodd mwyafrif poblogaeth Cymru (a'r byd i gyd o ran hynny) eu caethiwo yn eu cartrefi o ail hanner mis Mawrth ymlaen, penderfynwyd cynnal ar Cymuned Llên Natur (Facebook) arolwg i statws y gog yng Nghymru trwy fanteisio ar yr amodau arbennig hyn. A beth oedd yr amodau?:- a) pawb yn gaeth i'w cartrefi a'i gerddi am amser hir (felly samplo cyson), b) arolygon o dywydd braf (cysoder amodau) a wireddwyd, c) y mwyafrif yn gyfarwydd â chân y gog, ac ch) poblogrwydd nodi'r 'cwcw gyntaf' a'r llên gwerin yn gysylltiedig â hynny. Prif fantais y sefyllfa hon oedd y cyfle gafwyd i bobl nodi faint o gogau y clywson nhw dros gyfnod penodol (gan gynnwys 'dim cogau')[7]. Dengys y canlyniadau ar y map yn gryno, bod y gog yn dal ei thir yn dda yn yr ucheldir rhwng, er enghraifft, Dolgellau a'r Bala ac ar grugdir Uwch Gwyrfai, Arfon, ond mae ei absenoldeb ym Môn, a gwastadeddau Arfon a Llŷn yn drawiadiol, gyda sefyllfa wan yn cael ei awgrymu ar sail llai o ddata yn y de orllewin ac yng Nghlwyd. Ymarferiad Gwyddoniaeth y Dinesydd (Citizen Science) oedd hwn. Efallai mai arwyddocad fwyaf yr ymarferiad yw dangos potensial y cyfryngau cymdeithasol Cymraeg a Chymreig i amlygu patrymau naturiol.
Remove ads
Ffenoleg

Er fod poblogaeth y gog yng Nghymru wedi dirywio'n arw dros y ugain mlynedd diwethaf nid oes tystiolaeth (fel a geir yn achos rhai mewnfudwyr eraill o'r deheuau megis y gwybedog brith) bod ei ffenoleg wedi newid dros y tair canrif y mae data ar gael. Dyma graff yn dangos faint o ddyddiau ar ôl 1af Ebrill y clywyd y gog gyntaf mewn 19 o wahanol flynyddoedd ers 1788. Dengys y llinell wastad trwy’r cofnodion cysondeb rhyfeddol yn y dyddiad y mae'r gog yn ein cyrraedd ym Mhrydain.[8]
Roedd Thomas Bewick o Northumberland, a luniodd ysgythriad enwog o'r gog , yn arlunio ddechrau’r 19eg ganrif ac yn gwybod, diolch iddo lythyru gyda’r naturiaethwyr mawr o Gymro Thomas Pennant a’r Sais Gilbert White, bod adar yn mudo. Meddai Thomas Bewick: The Cuckoo visits us in spring, the well known cry of the male is commonly heard about the middle of April, and ceases at the end of June: its stay is short, the old birds quitting this country early in July (fe ddaliodd White at yr hen goel mai gaeafu trwy ymgladdu mewn mwd a wnaent).
Rhai rhywogaethau yn yr un teulu
Rhestr Wicidata:
Diwedd y rhestr a gynhyrchwyd yn otomatig o Wicidata.
Remove ads
Cyfeiriadau
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads











