Cyfanrif

From Wikipedia, the free encyclopedia

Cyfanrif
Remove ads

Mewn mathemateg, mae cyfanrifau yn rhifau cyfan (nid ffracsiynau) o set o rifau naturiol a rhifau negatif:

... , -3, -2, -1, 0, 1, 2, 3, ...
Thumb
Y symbol Zahlen, a ddefnyddir yn aml i ddynodi'r set o bob cyfanrif.

Mae 21, 4, 0, a −2048 felly, yn gyfanrifau, ond nid felly 9.75, 5 1/2, na 2. Dynodir cyfanrifau, fel arfer, gan Z ("Z") trwm neu (Unicode U+2124 ℤ) sy'n tarddu o'r gair Almaeneg Zahlen ([ˈtsaːlən], "rhif").[1][2]

Mewn geiriau eraill, mae Z yn is-set o bob rhif cymarebol Q, sydd yn ei dro'n is-set o'r rhifau real R. Fel y rhifau naturiol, mae'r cyfanrifau Z yn anfeidraidd.

Mewn cyfrifiadureg, mae cyfanrif yn fath o newidyn a ddefnyddir i ystorio gwerth cyfan; newidyn pwynt symudol ydy'r gwrthwyneb.

Remove ads

Geirdarddiad

Gair cyfansawdd yw 'cyfanrif', sef cyfuniad o ddau air: 'cyfan' a 'rhif'. Y gair Lladin am gyfanrif yw integer, sydd hefyd yn golygu 'cyfan'.[3]

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads