Cyfoeth Naturiol Cymru
From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Sefydlwyd Cyfoeth Naturiol Cymru (Saesneg: Natural Resources Wales) sy'n gorff a gaiff ei ariannu gan Lywodraeth Cymru ar 1 Ebrill 2013[1] pan unwyd y gwaith o reoli adnoddau naturiol Cymru. Mae'n dod â gwaith tri chorff a oedd yn bodoli cyn hyn at ei gilydd: Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru, a'r Comisiwn Coedwigaeth a pheth gwaith a arferid ei wneud gan Lywodraeth Cymru.[2] Y Prif Weithredwr yw Clare Pillman[3] a'r Cadeirydd ers Tachwedd 2015 yw Diane McCrea, sy'n dilyn yr Athro Peter Matthews a Madeleine Havard yn ddirprwy.[4][5]
Mae'n Gorff Cyhoeddus Anadrannol.
Honnodd Llywodraeth Cymru y byddai'r corff newydd hwn arbed £158 miliwn dros gyfnod o ddeg mlynedd.[6] Un pryder a leisiwyd gan swyddogion yr adran goedwigaeth oedd y byddai eu llais yn cael ei foddio o dan y drefn newydd.[7]
Cyfoeth Naturiol Cymru yw’r corff mwyaf a noddir gan Lywodraeth Cymru; mae’n cyflogi oddeutu 1,900 o staff ledled Cymru, gyda chyllideb o £180 miliwn yn 2016.
Remove ads
Dr Emyr Roberts oedd prif weithredwr cyntaf y corff ac ymddeolodd yn Hydref 2017 gyda Kevin Ingram, y cyfarwyddwr cyllid yn gwneud ei waith dros dro. Penodwyd Clare Pillman fel prif weithredwr newydd cychwynnodd ar ei gwaith yn Chwefror 2018.[8]
Yr Athro Peter Matthews oedd cadeirydd cyntaf y corff [4] Penodwyd Diane McCrea fel cadeirydd newydd yn 2015 ond ymddiswyddodd ym mis Gorffennaf 2018 yn dilyn adroddiad gan yr Archwilydd Cyffredinol yn dweud bod cytundebau'r corff i werthu pren yn anghyfreithiol.[9]
Polisi drws agored
Yn 2016, newidiodd ei bolisi trwyddedu adnoddau megis fideos i drwydded agored Comin Creu (CC-BY-SA).
Gweithdrefnau rheoli
Mae gorchwyl gwaith CNC yn cynnwys dros 40 math o orchwylion rheoli sydd wedi'u hetifeddu ganddynt. Maent yn cynnwys:[10]
- clustnodi a chaniatáu Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SSSIs)
- deunydd ymbelydrol: niwclear ac fel arall
- trwyddedu rhywogaethau a warchodir dan ddeddfau Ewropeaidd
- trwyddedu morwrol
- trwyddedu torri coed
- rheoli'r defnydd o ddŵr a llifogydd
- rheoli gwastraff a phacio yn sgil cynlluniau cyfnewid Ewropeaidd
- pysgodfeydd masnachol: llysywod, eog a physgod cregyn
- rheoli cyfyngiadau a nodi lleoliadau tir agored dan Ddeddf Hawliau Tramwyo, 2000
- diwydiant trwm
Remove ads
Cyfeiriadau
Gweler hefyd
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads