Cyhydedd hir
From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Rhennir y cyhydedd hir (sy'n un o'r pedwar mesur ar hugain) yn bedair rhan, gyda'r tair rhan gyntaf yn bum sillaf yr un a'r rhan olaf yn bedair sillaf. Ceir 19 sillaf, felly, mewn un llinell o gyhydedd hir. Mae'r tair rhan gyntaf yn odli gyda'i gilydd a'r rhan olaf yn cynnal y brifodl. Dwy linell o gyhydedd hir sy'n gwneud un pennill fel arfer.
Dyma enghraifft gan Tudur Aled allan o'i gerdd 'Marwnad Sian Stradling':
Cilio'r lloer, cloi'r llan,
Cyfrif rhif a rhan,
Can gwin ac arian cyn ei gorwedd;
Ceirw ogawg creigiau,
Agwrdd beneigiau,
Seigiau o'r eigiau, a'r ewigedd.
Gall y llinellau ddiweddu'n acennog neu'n ddiacen; yn aml mae llinellau sy'n diweddu'n ddiacen yn cynnwys odlau dwbwl - "creigiau" a "beneigiau".
Dyma enghraifft gyfoes o gwpledi cyhydedd hir o waith y Graig Arw'n sôn am Odre'r-graig yng Nghwm Tawe:
Godre'r oferedd rhanna wirionedd
Naddu tirion wedd Tarren Wyddon.
Cofio darfod oes, awr fu'n fawr o foes
Yw'r unig loes, Tarreni Gleision.
Am eiliad melys o'r sur a'r sawrus,
Halen ar wefus Glan yr Afon.
Ger y Graig Arw'n gwrlid clyd, cryd crwn
Hynod hoff yw hwn, Pantyffynnon.
Remove ads
Gweler hefyd
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads