Cyhydnos
From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Mewn seryddiaeth, gall cyhydnos olygu un o ddau beth:
- Yr ennyd pan mae'r haul wedi ei leoli un union dros gyhydedd y ddaear sef yr adeg pan nad yw echel y Ddaear ddim yn gogwyddo i ffwrdd o'r haul na thuag at yr haul.
- Ennyd mewn amser, pan mae'r pwynt gwanwynol, y cyhydedd wybrennol, ac elfennau eraill tebyg yn cael eu defnyddio i ddiffinio system cydfesur wybrennol.

Daw'r gair o'r Saesneg Equinox a ddaw o'r Lladin aequus cydradd a nox (nos) - oherwydd fod nos a dydd yn gydradd ar y diwrnod hwn: 12 awr.
Mewn seryddiaeth, mae cyhydnos yn ennyd mewn amser yn hytrach nag yn ddiwrnod, pan gellir gweld canol yr haul yn syth uwchben y cyhydedd, mae hyn yn digwydd o gwmpas 20 Mawrth (Alban Eilir) a 23 Medi (Alban Elfed) bob blwyddyn. Dyma ddau o'r gwyliau pwysicaf yng nghalendr y Celtiaid a sawl diwylliant arall o gwmpas y byd.
Remove ads
Gweler hefyd
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads
