Cymdeithas Dafydd ap Gwilym

Oxford University Welsh Society From Wikipedia, the free encyclopedia

Remove ads

Cymdeithas Dafydd ap Gwilym yw cymdeithas Gymraeg Prifysgol Rhydychen.

Ffeithiau sydyn Enghraifft o:, Rhan o ...

Cymdeithas Gymraeg yw hi, yn hytrach na Saesneg fel ei chwaer-gymdeithas, Cymdeithas y Mabinogi yng Nghaergrawnt.

Hanes

Sefydlwyd y Gymdeithas yn 1886, sy’n ei gwneud y gymdeithas hynaf ym Mhrifysgol Rhydychen, ar wahân i gymdeithas yr Undeb. Adwaenir ar lafer i’w haelodau fel “Y Dafydd”. Yn y 1990au ymddangosodd sawl rhifyn o gylchgrawn y gymdeithas, Yr Aradr, sy'n cynnwys erthyglau a gwaith creadigol gan yr aelodau yn bennaf, ond hefyd gan rai o'r siaradwyr gwadd.

Ym mysg yr aelodau sylfaenol oedd O. M. Edwards a John Morris-Jones. Derbyniwyd merched yn aelodau yn ystod y flwyddyn academaidd 1966-1967. Cedwir y llyfrau cofnodion yn Llyfrgell Bodley.

Remove ads

Traddodiadau

Enwyd y Gymdeithas ar ôl y bardd Dafydd ap Gwilym, a bu’n draddodiad i bob cyfarfod gychwyn gyda darlleniad o’i waith gan y Caplan, a thrafodaeth arno.

‘Roedd gan y Gymdeithas rhai defodau ffurfiol a swyddi gyda theitlau mawreddog, er mae y bwriadwyd y rhain i fod yn eironig. Erbyn heddiw cadwyd y teitl Caplan ar gyfer y cadeirydd, a chadwyd swydd mawreddog yr Archarogldarthydd.

Bu’n draddodiad ar un adeg i aelodau a chyn-aelodau’r gymdeithas gyfarfod yn flynyddol ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol.

Thumb
CYMDEITHAS DAFYDD AP GWILYM, EISTEDDFOD GENEDLAETHOL DINBYCH, 1939

Rhes flaen (chwith i'r dde): G.O. Williams, T.I. Ellis, P. Macaulay Owen, Evan J. Jones, Hywel Davies, Jeremiah Williams, B.B. Thomas,J. Lloyd-Jones, T.J. Rowlands, G.A. Edwards, D. J. Lewis, C. Wynne Griffith, J. Williams-Hughes, Griffith Rees, T.J. Jones
Ail res (de i'r chwith): J. Edwards, R.H. Evans, D.J. Davies, J.H. Williams, R.I. Aaron, D. M. Jones, E. Pryce Jones, Dewi W. Powell, H.V. Morris-Jones, H. Williams, M. Elis-Williams, A. Tudno Williams, J.H. Griffith
Cefn (chwith i'r dde): Llewelyn Jones, D. J. Williams, T. Meurig Wynne, H. Winter Jones, D.J. Samuel, E. Goronwy Owen, M. Hughes-Thomas, J.E. Davies, H.D. Lewis, G.R. Evans, I. Oswy Davies
Remove ads

Cyfansoddiad

Yn 2025, dyluniwyd cyfansoddiad swyddogol i'r Gymdeithas. David Ingham (Coleg yr Iesu) a Maia Williams (Coleg yr Iesu), y cyd-gaplaniaid ar y pryd, a'i dyluniodd. Mae'n debyg nad oedd gan y Gymdeithas gyfansoddiad cyn hynny, neu y collwyd ef rywbryd ar hyd y blynyddoedd.

Mae'r Cyfansoddiad yn darllen felly:

"Yn enw y rhai hynny a gollodd eu gwaed dros eu gwlad a’u hiaith, a’r rhai hynny sy’n dal i frwydro; yn enw y beirdd, y gwyddonwyr a’r gwleidyddion a ffurfiodd y Gymdeithas gant a hanner o flynyddoedd cyn y dwthwn hwn; ac yn enw y bardd hwnnw a gynganeddodd cyn y bu cynghanedd, a’i eiriau’n dal i lifo ynom, a’i ddysg ynghlwm wrth ein hangerdd ni; yn enwau y rhai hynny oll,

"yr ydym ni, aelodau Cymdeithas Dafydd ap Gwilym,

"y rhai hynny a fu a’r rhai hynny a fydd,

"yn derbyn, deddfu, a datgan ein bod ni’n ffyddlon i’r Cyfansoddiad hwn."

ERTHYGL I

Cymraeg ydyw iaith y Gymdeithas.

Cynhaler pob cyfarfod drwy gyfrwng y Gymraeg, ac felly y mae’n rhaid i bob aelod o’r pwyllgor fedru’r Iaith. Lle bo croeso i’r di-Gymraeg yn ein digwyddiadau a chyfarfodydd, rhaid cynnal y rhai hynny yn ddwyieithog. Mewn cyfathrebiad dwyieithog, boed ar lafar neu’n ddigidol, rhaid i’r Gymraeg ragflaenu’r Saesneg.

ERTHYGL II

Enw swyddogol y Gymdeithas ydyw 'Cymdeithas Dafydd ap Gwilym'. Fe’i seiliwyd ym 1886, a’i henwi ar ôl y bardd canoloesol Dafydd ap Gwilym. Bu’n draddodiad i bob cyfarfod gychwyn gyda darlleniad o’i waith gan y Caplan, a thrafodaeth arno, er na orfodir hyn bellach.

Er yr adwaenir y Gymdeithas ar lafar fel 'Y Dafydd', 'Cymdeithas Dafydd ap', neu 'Y Gymdeithas', argymhellir yn gryf yn erbyn 'Cymdeithas Gymraeg Prifysgol Rhydychen' (a’i chyfieithiad Saesneg).

ERTHYGL III

Y mae hawl gan bob myfyriwr israddedig ac ôl-raddedig ym Mhrifysgol Rhydychen i ymaelodu â’r gymdeithas, ac y mae pob aelod o’r Gymdeithas gydradd â’i gilydd, cyhyd ag y bo’n ymdrechu i ddefnyddio’r Gymraeg a pharchu’r hanes hir sy’n sylfaen i’r Gymdeithas. Ni waeth ein gwahaniaethau arwynebol—hil, rhyw, rhywioldeb, neu grefydd—cofier mai Cymry ŷm oll, ac mai eiddom ninnau ydyw’r Iaith.

ERTHYGL IV

Caplan ydyw’r enw ar lywydd y Gymdeithas. Etholer ef / hi yn Nhymor y Drindod gan aelodau oll y Gymdeithas, ynghyd â gweddill y pwyllgor. Ceir hefyd ethol dau Gyd- gaplan, lle bo gofyn.

Y mae swyddi eraill y pwyllgor yn amrywio o flwyddyn i flwyddyn, ond y mae’n awgrym cadw Trysorydd, Ysgrifennydd, a Swyddogion Cymdeithasol. Y mae’n ddyletswydd ar bob aelod o’r Gymdeithas i gydnabod arwyddocâd ei swydd a gweithio’n ddiwyd dros Gymru, dros Gymreictod, a thros yr Iaith mewn man sydd iddi’n aml mor elyniaethus.

ERTHYGL V

Ynghyd â digwyddiadau wythnosol y Gymdeithas, rhaid cynnal Eisteddfod flynyddol. Estynner gwahoddiad i holl ysgolion Cymru gystadlu mewn amryw o gystadleuthau, a’r ennillydd yn cael dod i ymweld â’r Gymdeithas ar ddiwrnod yr Eisteddfod er mwyn ei gadeirio. Rhaid i aelodau’r pwyllgor gynnal y ddefod hon mewn modd parchus sy’n talu teyrnged i’r traddodiad.

ERTHYGL VI

Rhaid i’r rhai sy’n bresennol ganu’r anthem genedlaethol, Hen Wlad Fy Nhadau, ar ddiwedd pob digwyddiad a chyfarfod.

ERTHYGL VII

Dim ond trwy bleidlais holl aelodau’r Gymdeithas y ceir ategu i’r Cyfansoddiad hwn.

Remove ads

Llywyddion

Dyma rai o gyn-Gymrodorion y Brifysgol sydd wedi gwasanaethu, neu sy'n gwasanaethau heddiw fel Llywydd anrhydeddus ar y Gymdeithas:

Rhai cyn-aelodau

Y saith aelod gwreiddiol, dan gadeiryddiaeth John Rhŷs:

Aelodau diweddarach:

Remove ads

Llenyddiaeth

  • Cofio’r Dafydd: Cymdeithas Dafydd ap Gwilym 1886–1986, gol. D. Ellis Evans ac R. Brinley Jones (Abertawe: Tŷ John Penry, 1987)

Dolenni allanol

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads