Jeremy Miles
Gwleidydd o Gymro From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Gwleidydd Llafur Cymru yw Jeremy Miles sydd wedi cynrychioli etholaeth Castell-nedd yn Senedd Cymru ers etholiad 2016.[1]
Yn 2025, ef oedd llywydd Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Dur a Môr 2025.[2]
Remove ads
Addysg
Addysgwyd Jeremy yn Ysgol Gyfun Ystalyfera, ac astudiodd y gyfraith yng Ngoleg Newydd, Rhydychen. Tra yn fyfyriwr, roedd yn aelod o Gymdeithas Dafydd ap Gwylim
Gyrfa wleidyddol
Dewiswyd Miles fel ymgeisydd newydd Llafur Cymru dros etholaeth Castell-nedd ar gyfer etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2016 yn dilyn ymddeoliad yr aelod blaenorol Gwenda Thomas.[3] Ar 5 Mai 2016, cafodd ei hethol yn Aelod Cynulliad; derbyniodd 9,468 o'r 25,363 pleidlais a fwriwyd (37.3%).[4]
Fe'i enwebwyd yn Cwnsler Cyffredinol Cymru ar 3 Tachwedd 2017 gan y Prif Weinidog Carwyn Jones. Cadarnhawyd y swydd drwy bleidlais ar 14 Tachwedd 2017
Ym Mawrth 2018, cyflwynodd ddeddfwriaeth ddrafft a fyddai'n creu cyfundrefn i ddatblygu llyfr statud o Gyfraith Gyfoes Cymru, a fyddai'n gwneud Cymru y cyntaf o wledydd Prydain i drefnu ei chyfreithiau yn y ffordd yma. Byddai'r llyfr statud yn cael ei gynllunio i wella hygyrchedd i Ddeddfau Cymru ar gyfer cyfreithwyr a'r boblogaeth yn gyffredinol.[5]
Remove ads
Bywyd personol
Mae Miles yn un o'r tri aelod hoyw agored cyntaf o Gynulliad Cymru ar ei etholiad yn 2016.[1]
Cyfeiriadau
Dolenni allanol
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads