Cynffig
pentref From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Pentref yng nghymuned Corneli, ym mwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Cymru, yw Cynffig[1][2] (Seisnigiad: Kenfig). Hyd at 1832 roedd yn fwrdeistref. Saif yn yr ardal a adwaenid fel Tir Iarll.
Dynodwyd Twyni Cynffig a'r llyn yn Warchodfa Natur Genedlaethol ac yn Ardal Gadwraeth Arbennig; ceir nifer o blanhigion prin yn y twyni ac mae'r llyn yn lle poblogaidd i wylio adar. Ceir adfeilion Castell Cynffig yma hefyd, yntau wedi ei gladdu gan y tywod.
Gerllaw, mae Y Sger, cartef Elizabeth Williams (Y Ferch o'r Sger) yn y 18g.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Sarah Murphy (Llafur)[3] ac yn Senedd y DU gan Stephen Kinnock (Llafur).[4]
Remove ads
Hanes
Ceir olion yn yr ardal o oes yr Efydd, ac roedd yma dref yn y Canol Oesoedd sydd yn awr wedi ei gorchuddio gan dywod Twyni Cynffig. Adeiladwyd y pentref presennol ymhellach o'r môr.
Cyfeiriadau
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads