Cyngor Tref Aberystwyth
From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Cyngor Tref Aberystwyth yw'r cyngor cymuned sy'n gwasanaethu hen fwrdeistref, tref a chymuned Aberystwyth. Fe'i rhennir i bum ward ar gyfer etholiadau.
Remove ads
Cefndir
Mae'r Cyngor yn penodi cadeirydd sy'n gweithredu fel llywydd ac a adwaenir fel Maer Aberystwyth. Mae'r Cyngor bellach yn gorff staduol ond mae hefyd yn gadael ar Siarter Bwrdeisdref a roddwyd iddi gan y Edward I, brenin Lloegr ar 28 Rhagfyr 1277 ac sydd wedi ei chadarnhau gan frenhinoedd ers hynny,[1] sy'n golygu fod aelodau'r Cyngor hefyd yn ymddiriedoliaethwyr y Siarder.
Ers i'r Deddf Corfforaethu Bwrdeisdref 1835 ddod i rym, mae statws Aberystwyth fel bwrdeisdref wedi bod yn un seremoniol yn unig. Ers Deddf Llywodraeth Leol 1972 (a ddaeth i rym yn Ebrill 1974), gwaharddwyd cyngor y dref rhag cael ei hadnabod fel cyngor bwrdeisdref, er gall cynghorwyr tref, fel ymddiriedolaethwyr siarder, er enghraifft, dal gymryd rhan mewn gweithgaredd seremoniol (gwisgo ffurfwisg dinesig), ethol maeri (sy'n cael gwisgo cadwyn y swydd) a threfnu marchnadoedd (yn unol â'r Siarter Frenhinol wreiddiol). Y Maer yn 2019-20 yw Mari Turner.[2]

Ceir pump ward i Gyngor Tref Aberystwyth - Bronglais, Canol, Gogledd, Penparcau a Rheidol - sy'n ethol rhwng 3 a 5 cynghorydd yr un.
Gyda'r clod o'r gogledd, mae'n ffinio â chynghorau cymuned Tirymynach, Faenor, Llanbadarn Fawr a Llanfarian.
Remove ads
Cynrychiolaeth Cyfredol, ers etholiad 2017
Maeri Diweddar Cyngor Tref Aberystwyth
Remove ads
Cyfeiriadau
Dolenni allanol
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads