Cyprianus
From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Diwinydd Cristnogol, un o Dadau'r Eglwys, ac arweinydd y Cristnogion yn Affrica oedd Sant Cyprianus (Thascius Caecilius Cyprianus; 200 – 14 Medi 258).
Ganwyd yng Ngharthago i deulu bonheddig. Trodd yn Gristion tua'r flwyddyn 245, a rhoddai'r mwyafrif o'i gyfoeth i'r tlawd. Cafodd ei ddewis yn Esgob Carthago yn 248. Fe wnaeth ffoi o'r ddinas pan ddechreuodd yr Ymerawdwr Decius erlid y Cristnogion.
Cafodd Cyprianus ei roi ar brawf a'i ddienyddio'n ferthyr dan erledigaeth yr Ymerawdwr Valerian I. Dethlir ei ŵyl ar 16 Medi yn yr Eglwys Babyddol a'r Eglwys Uniongred Ddwyreiniol ac ar 26 Medi yn yr Eglwys Anglicanaidd.
Remove ads
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads
