Merthyr

From Wikipedia, the free encyclopedia

Merthyr
Remove ads

Merthyr (o'r Lladin martyr) yw un sy'n marw dros ei (h)egwyddorion, ei ffydd neu rhywbeth y mae'n credu ynddo. Yn wreiddiol defnyddid y gair mewn cyd-destun Cristnogol i ddisgrifio credadyn sy'n barod i ddioddef angau dros ei ffydd yn hytrach nag ymwrthod â hi. Mae'r gair heddiw yn cael ei ddefnyddio ar gyfer pobl sy'n dioddef angau yn enw crefyddau eraill, e.e. Bwdhaeth, neu yn enw argyhoeddiadau gwleidyddol a.y.y.b. Merthyroleg yw'r gair am astudio hanes merthyron.

Thumb
Gweler hefyd y dudalen gwahaniaethu Merthyr (gwahaniaethu).
Remove ads

Ystyron eraill

Ail ystyr y gair "merthyr" yn y Gymraeg yw "eglwys (er cof am sant neu ar ei fedd)." Fe'i gwelir yn yr enwau lleoedd Merthyr Tudful, Merthyr Cynog, Merthyr Dyfan a Merthyr Mawr (i gyd yn ne Cymru).[1]

Cyfeiriadau

Gweler hefyd

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads