Dafydd Gam

milwr Cymreig From Wikipedia, the free encyclopedia

Dafydd Gam
Remove ads

Uchelwr canoloesol o Gymru oedd Dafydd ap Llewelyn ap Hywel neu Dafydd Gam (tua 138025 Hydref 1415). Roedd yn frodor o ardal Aberhonddu, Brycheiniog. Caiff ei ystyried gan rai yn arch-fradwr i'r achos Cymreig.[1][2]

Ffeithiau sydyn Ganwyd, Bu farw ...
Thumb
Arfau Dafydd Gam
Remove ads

Bywgraffiad

Roedd yn wrthwynebwr blaengar i Owain Glyndŵr yn ne-ddwyrain Cymru. Cymerwyd ef yn garcharor gan Glyn Dŵr yng nghyffiniau Aberhonddu tua 1410 (neu o bosibl 1412).

Yn ddiweddarach, bu'n ymladd dros Harri V yn y Rhyfel Can Mlynedd yn Ffrainc, a lladdwyd ef ym Mrwydr Agincourt yn 1415, gyda'i mab yng nghyfraith, Roger Vaughan o Bredwardine.[3] Mae traddodiad iddo gael ei urddo'n farchog ar faes y frwydr cyn iddo farw, ond nid oes tystiolaeth i gadarnhau hyn. Mae'n bosib mae Dafydd ap Llywelyn yw sail y Cymeriad Cymreig Fluellen cyfeirir ato yn y ddrama Henry V gan William Shakespeare lle mae'n ymddangos fel un o ysweiniaid brenin Lloegr.[2][4], er bod Davy Gam yn cael ei grybwyll wrth ei enw yn y ddrama fel un o'r rai bu farw; bu un o ddisgynyddion Dafydd Gam, John Games yn gyfaill i Shakespeare, gan hynny mae'n bosib bod y cymeriad cyffredinol a'r cyfeiriad penodol wedi ei grybwyll ganddo fo.

Credir i'r llysenw "Gam" gael ei ennill, efallai gan mai dim ond un llygad oedd ganddo neu ei fod yn llygatgroes.

Trwy briodas ei ferch Gwladus â Syr Wiliam ap Tomas o Raglan, roedd yn gyndad i deulu grymus yr Herbertiaid a hefyd i rai o Ieirll Penfro.

Remove ads

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads