Daisy Duck

From Wikipedia, the free encyclopedia

Daisy Duck
Remove ads

Mae Daisy Duck yn gymeriad cartŵn anthropomorffig a grëwyd ym 1940 gan gwmni Walt Disney Productions. Mae Daisy yn hwyaden gyda plu gwyn, llygaid duon a cholur lafant ar ei aeliau hirion. Yn nodweddiadol mae'n gwisgo daps, ffroc a bwa gwallt piws.[1] Mae hi'n gariad i Donald Duck ac yn ffrind gorau i Minnie Mouse

Ffeithiau sydyn Ymddangosiad cyntaf, Crewyd gan ...
Remove ads

Ymddangosiadau

Cododd Daisy i enwogrwydd gyda'i rolau mewn cartwnau animeiddiedig Disney yn y 1940au. Roedd ymddangosiad cyntaf Daisy ym 1940 yn y ffilm Mr Duck Steps Out [2] lle mae Donald a'i neiaint Huey, Dewey a Louie yn cyfarfod a hi am y tro cyntaf.

Ers hynny mae wedi ymddangos mewn dros 16 o ffilmiau. Ei ymddangosiad diweddaraf mewn ffilm theatrig oedd Fantasia 2000 yn y flwyddyn 2000. Mae Daisy hefyd wedi ymddangos mewn nifer o ffilmiau syth i fideo megis Mickey's Once Upon a Christmas (1999) Mickey's Magical Christmas: Snowed in at the House of Mouse (2001), Mickey's House of Villains (2002), Mickey, Donald and Goofy: The Three Musketeers (2004) a Mickey's Twice Upon a Christmas (2004).

Mae Daisy wedi ymddangos mewn nifer o gyfresi teledu'r Disney Channel gan gynnwys Quack Pack , Mickey Mouse Works a Mickey Mouse Clubhouse

Mae hi wedi ymddangos mewn nifer o Gemau Fideo gan gynnwys:

  • Quackshot
  • Mickey's Racing Adventure
  • Donald Duck: Goin' Quackers!
Remove ads

Cymeriad

Mae Daisy yn enwog am ei hoffter o siopa, ffasiwn, dawnsio a phartïon. Mae hi'n casáu diffyg parch a diffyg moesoldeb, twyllo ac annhegwch.

Lleisio

Lleisiwyd Daisie yn wreiddiol gan Gloria Blondell (1945-1950) ers hynny mae wedi cael ei lleisio gan

  • Ruth Clifford (1948)
  • Vivi Janiss (1954)
  • June Foray (1959, 1960)
  • Patricia Parris (1983)
  • Kath Soucie (1996-1998)
  • Diane Michelle (1998-1999)
  • Tress MacNeille (1999-cyfredol)

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads