David Miall Edwards

diwinydd a llenor From Wikipedia, the free encyclopedia

David Miall Edwards
Remove ads

Diwinydd a llenor o Gymru oedd David Miall Edwards (22 Ionawr 187329 Ionawr 1941). Ysgrifennai mewn Cymraeg a Saesneg ar ddiwinyddiaeth gan gymryd safbwynt Rhyddfrydiaeth a bu'n olygydd Y Dysgedydd ac Yr Efrydydd.[1]

Ffeithiau sydyn Ganwyd, Bu farw ...

Ganed Edwards yn Llanfyllin, Powys yn 1873 yn fab i William a Jane Edwards[2]. Cafodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg Llanfyllin, Prifysgol Bangor, Coleg Bala-Bangor a Choleg Mansfield, Rhydychen. Ar ôl cyfnod fel gweinidog aeth yn athro diwinyddiaeth yn y Coleg Coffa, Aberhonddu lle arhosodd hyd ei ymddeoliad yn 1934.[1]

Gwasanaethodd fel Gweinidog yr Annibynwyr Capel Salem, Blaenau Ffestiniog 1900 i 1904 a Chapel y Plough, Aberhonddu 1904 i 1909.

Ym 1914 priododd Lilian Clutton Williams, Manceinion.

Remove ads

Llyfryddiaeth ddethol

  • Esponiad ar Epistol Iago
  • Crefydd a Bywyd (1915)
  • Crist a Gwareiddiad (1921)
  • The Philosophy of Religion (1923)
  • Iaith a Diwylliant Cenedl (1927)
  • Bannau'r Ffydd (1929)
  • Christianity and Philosophy (1932)
  • Crefydd a Diwylliant (1934)

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads