Diemwnt

From Wikipedia, the free encyclopedia

Diemwnt
Remove ads

Maen neu garreg yw Diemwnt, sy'n alotrop o garbon lle mae'r atomau carbon wedi eu trefnu mewn ffurf dellten o grisialau isomedrig-hecsoctahedraidd. Mae ei galetrwydd a'i gwasgariad uchel o olau yn ei wneud yn ddefnyddiol ar gyfer diwylliant a gemwaith. Hon yw'r mwyn caletaf sy'n digwydd yn naturiol. Mae'n bosib trin diemyntau arferol o dan gyfuniad o bwysedd a thymheredd uchel er mwyn creu diemyntau Math-II, sy'n galetach na'r diemyntau a ddefnyddir mewn medryddion mesur caletwch.[1]

Ffeithiau sydyn Enghraifft o:, Math ...

Daw'r gair diemwnt (neu "diamwnd") o'r Groeg hynafol ἀδάμας (adámas) "anorchfygol", "di-ddofi", o ἀ- (a-), "di-" + δαμάω (damáō), "i drechu, i ddofi". Maent wedi cael eu trysori fel cerrig gemau ers eu defnydd yn yr eiconau crefyddol yn India hynafol ac mae eu defnydd mewn offer ysgythru yn dyddio o hanes dyn cynnar.[2][3] Mae poblogrwydd diemyntau wedi cynyddu ers yr 19g oherwydd cynnydd yn y cyflenwad, a gwelliannau yn nhechnoleg torri a sgleinio, twf economi'r byd, ac ymgyrchau hysbysebu arloesol a llwyddiannus.

Remove ads

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

Ffynonellau

Dolenni allanol

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads