Doc Penfro

From Wikipedia, the free encyclopedia

Doc Penfro
Remove ads

Tref a chymuned yn Sir Benfro, Cymru, yw Doc Penfro[1] (Saesneg: Pembroke Dock).[2] Saif yn ne-orllewin y sir, ar ochr ddeheuol Afon Cleddau, gyferbyn a Neyland, gyda Pont Cleddau yn eu cysylltu. Gyda phoblogaeth o 8,676 yn 2001, roedd Doc Penfro y drydedd dref yn Sir Benfro o ran maint.

Ffeithiau sydyn Math, Poblogaeth ...

Sefydlwyd y dref yn 1814 pan ddechreuodd y Llynges Frenhinol iard adeiladu llongau yma. Lansiwyd y ddwy long gyntaf, Valorous ac Ariadne, yn Chwefror 1816. Gyda'r angen i amddiffyn yr iard, daeth Doc Penfro yn dref filwrol, gyda barics yn cael ei adeiladu yn 1844. Lansiwyd y llong olaf yma yn 1922, a chaewyd yr iard yn 1926.

Yn 1931 sefydlodd yr Awyrlu Brenhinol ganolfan yma. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd bu tân mawr ar 19 Awst 1940 pan fomiwyd tanciau olew gan arwyren Almaenig.

Erbyn hyn mae'r lluoedd arfog wedi gadael, ac mae diweithdra'n uchel. Mae'r porthladd yn parhau, ac mae cwmni Irish Ferries yn rhedeg fferi i Rosslare yn Iwerddon ddwywaith y dydd.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Samuel Kurtz (Ceidwadwyr)[3] ac yn Senedd y DU gan Henry Tufnell (Llafur).[4]

Remove ads

Cyfrifiad 2011

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[5][6][7][8]

Rhagor o wybodaeth Cyfrifiad 2011 ...
Remove ads

Enwogion

Oriel

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads