Dofi
From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Dofi yw'r broses lle mae gwahanol rywogaethau o anifeiliaid a phlanhigion yn cael eu defnyddio a'u haddasu ar gyfer dibenion dynol. Gellir eu defnyddio ar gyfer bwyd neu at ddibenion eraill, er enghraifft gwlân o ddefaid i wneud dillad. Fel rheol, mae'r rhywogaethau hyn yn cael ei newid trwy fridio dewisol i'w gwneud yn fwy addas ar gyfer y dibenion hyn.

Y rhywogaeth gyntaf i'w dofi oedd y ci, ffurf wedi ei dofi o'r blaidd, efallai tua 100,000 o flynyddoedd yn ôl. Y rhai nesaf oedd yr afr, y ddafad a'r mochyn, tua 8000 CC yng ngorllewin Asia. Dilynwyd hwy gan y fuwch tua 6000 CC.
Ymysg y rhywogaethau o anifeiliaid sydd wedi eu dofi mae:
Remove ads
Cysyniadau
Byddai rhai yn dadlau mai disgrifiad o ddofi yn golygu to domesticate yw'r uchod[11]
Ystyriwch y paragraff hwn (o Diamond 1997[12]
It’s true, of course, that some large African animals have occasionally been tamed. Hannibal enlisted tamed African elephants in his unsuccessful war against Rome, and ancient Egyptians may have tamed giraffes and other species. But none of those tamed animals was actually domesticated – that is, selectively bred in captivity and genetically modified so as to become more useful to humans. Had Africa’s rhinos and hippos been domesticated and ridden, they would not only have fed armies but also have provided an unstoppable cavalry to cut through the ranks of European horseman. Rhino mounted Bantu shock troops could’ve overthrown the Roman Empire. It never happened.
Cyfieithwch hwn! Onid yw’r Gymraeg yn brin o eirfa? Mae’r gwahaniaeth rhwng to tame a to domesticate fel cysyniadau yn waelodol bwysig i’n dealltwriaeth o hanes y ddynoliaeth. Mae ein hanes ynghlwm wrth yr ail broses (sef domesticating) anifeiliaid a phlanhigion. Ac eto does dim gair sefydlog gennym yn y Gymraeg i wahaniaethu rhwng y ddau gysyniad gwahanol hwn. (Ffrangeg: apprivoiser a domestiquer; Almaeneg: zähmen a domestizieren ).
Remove ads
Cyfeiriadau
Gweler hefyd
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads
