E. M. Forster

From Wikipedia, the free encyclopedia

E. M. Forster
Remove ads

Nofelydd o dras Gymreig a Gwyddelig o Loegr oedd Edward Morgan Forster (1 Ionawr 1879 - 7 Mehefin 1970)[1] a ysgrifenai yn Saesneg. Sgwennai storiau byrion, nofelau ac ysgrifau'n ymwneud â'r gwahaniaethau yn haenau neu begynau annheg y gymdeithas, gan geisio dinoethi rhagrith yr oes, mewn arddull llawn eironi. Sail i'w holl waith, mewn gwirionedd, oedd ei gred mewn dyneiddiaeth a gwelir hynny ar ei orau yn ei nofel (1910) Howards End: "Only connect … ". Mae ei nofel A Room with a View (1908) yn llawn o optimistiaeth a'i nofel fwyaf llwyddiannus oedd A Passage to India (1924). Ceir hefyd nifer o gyffyrddiadau'n ymwneug â phobl hoyw, mater llosg iawn ar y pryd, yn enwedig ei nofel Maurice a'i gasgliad o stoiau byrion The Life to Come. Teithiodd gryn lawer drwy India, yr Aifft a thrwy Ewrop a dylanwadodd y teithiau hyn cryn lawer ar ei waith. Bu'n byw yn Surrey am dros 40 mlynedd.

Ffeithiau sydyn Ganwyd, Bu farw ...
Remove ads

Y dyddiau cynnar

Fe'i ganwyd mewn tŷ (sydd bellach wedi'i ddymchwel) yn 6 Melcombe Place, Dorset Square, Llundain NW1, yn unig fab i Alice Clara "Lily" (née Whichelo) ac Edward Morgan Llewellyn Forster, a oedd yn bensaer. Fe'i cofrestrwyd fel Henry Morgan Forster, ond fe'i bedyddiwyd fel Edward Morgan Forster. Galwyd ef yn "Morgan", gan fod ei dad o'r un new. Bu farw ei dad o'r diciâu ar 30 Hydref 1880, ychydig cyn pen-blwydd Morgan yn ddwy oed.[2] Ymhlith ei berthnasau roedd Clapham Sect, a oedd yn flaenllaw yn ei ymdrechion i newid cymdeithas o fewn Eglwys Loegr.

Gadawyd iddo £8,000 y flwyddyn pan fu farw ei fodryb Marianne Thornton ar 5 Tachwedd 1887; roedd Marianne yn ferch i Henry Thornton a oedd yn gredwr cryf mewn diddymu caethwasiaeth.[3] Roedd yr arian (dros hanner miliwn o bunnoedd o ran ei werth heddiw (2013)[4]) yn fwy na digon i'w alluogi iddo fyw fel llenor. Roedd yn ddisgybl dyddiol yn Ysgol Tonbridge, ysgol breifat eitha enwog yng Nghaint. Yn new ymlaen, enwyd neuadd yr ysgol ar ei ôl.[5]

Thumb
Cofeb i Forgan; Eglwys St. Nicholas, Stevenage.

Mynychodd Goleg y Brenin, Caergrawnt ar ôl gadael yr ysgol, rhwng 1897 a 1901. [6] ac roedd yn aelod brwd o'r grŵp areithio Cambridge Apostles (a adnabyddwyd yn swyddogol fel Cymdeithas Conversazione). Yn ddiweddarach sefydlodd nifer o'r aelodau hyn "Grŵp Bloomsbury", ac roedd Morgan yn aelod brwd ohoni yn y 1910au a'r 1920au. Disgrifiodd ei goleg a'i gyfnod mewn rhan enwog o The Longest Journey.

Remove ads

Teithio

Wedi iddo adael y coleg teithiodd drwy Ewrop gyda'i fam, gan ddychwelyd i Loegr yn 1903. Dysgodd Ladin yn London’s Working Men’s College; ddeg mlynedd yn ddiweddarach teithiodd drwy India, yr Aifft a'r Almaen gyda Goldsworthy Lowes Dickinson. Erbyn hyn roedd wedi sgwennu pob un o'i nofelau, ar wahân i un.[7] yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, fel gwrthwynebydd cydwybodol bu'n aelod o'r Groes Goch a gwasanaethodd yn Alexandria, yr Aifft.

Remove ads

Llyfryddiaeth

Nofelau

  • Where Angels Fear to Tread (1905)
  • The Longest Journey (1907)
  • A Room with a View (1908)
  • Howards End (1910)
  • A Passage to India (1924)

Arall

  • Abinger Harvest (1936)
  • Aspects of the Novel (1927)
  • Marianne Thornton, A Domestic Biography (1956)

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads