Efail-wen
pentref yn Sir Gaerfyrddin From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Pentref yng nghymuned Cilymaenllwyd, Sir Gaerfyrddin, Cymru, yw Efail-wen, weithiau Efailwen.[1] Saif yng ngorllewin y sir, yn agos i'r ffin â Sir Benfro, ar y briffordd A478, tua hanner y ffordd rhwng Arberth a Chrymych.
Yn Efail-wen y dechreuodd Helyntion Beca, gwrthryfel gwerinol yn erbyn y tollau drud a godwyd am deithio ar hyd y ffyrdd tyrpeg. Trawodd Beca gyntaf yn Efail-wen ar y 13 Mai 1839, gan falu'r dollborth yno. Fe wnaethpwyd yr un peth eto ar y 6 Mehefin yn yr un flwyddyn ac eto ar yr 17 Gorffennaf. Mae ysgol y pentref a chaffi wedi eu henwi ar ôl Beca.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Samuel Kurtz (Ceidwadwyr)[2] ac yn Senedd y DU gan Simon Hart (Ceidwadwr).[3]
Remove ads
Cyfeiriadau
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads