Eisteddfod Ryngwladol Llangollen

gwyl ryngwladol a leolir yn Llangollen From Wikipedia, the free encyclopedia

Eisteddfod Ryngwladol Llangollen
Remove ads

Cynhelir Eisteddfod Ryngwladol Llangollen yn Llangollen yn yr haf am wythnos bob blwyddyn, gan ddechrau fel rheol ar ddydd Mawrth a gorffen ar y Sul.

Ffeithiau sydyn Enghraifft o:, Dechrau/Sefydlu ...

Yn ystod yr wythnos mae pobl o bob cwr o'r byd yn mynd yno i gystadlu yn y cystadleuthau cerddoriaeth a dawns. Ceir cystadleuwyr o tua hanner cant o wledydd. Cynhelir gorymdaith liwgar ar ddechrau'r wythnos, gyda chystadleuwyr yn eu gwisg genedlaethol neu draddodiadol, a cheir dawnsio a chanu a chwarae cerddoriaeth gwerin o bob math tra'n cerdded trwy strydoedd Llangollen.

Mae yr eisteddfod wedi rhoi cychwyn i yrfaoedd nifer o berfformwyr a ddaeth yn enwog yn ddiweddarach; er enghraifft dywedodd Luciano Pavarotti mai perfformio yma gyda chôr o Modena a roddodd ysgogiad iddo i ddod yn ganwr proffesiynol. Un arall a enillodd yma ar gychwyn ei yrfa oedd y tenor Rhys Meirion.

Thumb
Rhan o orymdaith yr Eisteddfod, 2006
Remove ads

Ffrae arwyddair yr Eisteddfod

Arwyddair Eisteddfod Ryngwladol Llangollen yw:

Byd gwyn fydd byd a gano,
Gwaraidd fydd ei gerddi fo:

arwyddair a sgwennwyd gan y bardd T. Gwynn Jones yn 1946, ychydig fisoedd wedi sefydlu'r eisteddfod yn 1945. Mae i'r gair 'gwyn' nifer o ystyron, wrth gwrs, e.e. pur, ac fe'i defnyddir yn aml yn y Beibl, e.e. yn y Gwynfydau, lle gellir ei gyfieithu o Roeg μακάριοι (lluosog; Saesneg: blessed). Gwelir yr arwyddair ar dlysau, gwaith celf ac arteffactau amryiol yr Eisteddfod ers 75 mlynedd.[1] Prif sylfaenydd yr Eisteddfod oedd y cerddor W. S. Gwynn Williams, a chyfeiria'r arwyddair, ar lefel ysgafn ond clyfar, at y ffaith honno.

Fodd bynnag, ar 17 Mawrth 2023, cyhoeddodd Cynhyrchydd Arbennig yr Eisteddfod, sef y Saesnes Camilla King, i un o'u partneriaid gwyno gan y gellir, yn eu barn nhw, gamddehongli'r ystyr - yn llythrennol - i olygu'r lliw gwyn, yn hytrach na dymuniad o sancteiddrwydd. Dywedodd y bydd yr Eisteddfod yn newid yr arwyddair. Cafwyd ton o wrthwynebiad i benderfyniad yr Eisteddfod.

Ar 11 Ebrill 2023 gwnaeth Bwrdd yr Eisteddfod dro pedol, a phenderfynwyd cadw'r arwyddair.[2]

Remove ads

Dolen allanol

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads