El Salfador

From Wikipedia, the free encyclopedia

El Salfador
Remove ads

Gweriniaeth Sbaeneg yng Nghanolbarth America sy'n ffinio â'r Cefnfor Tawel i'r de, Gwatemala i'r gorllewin, ac Hondwras i'r gogledd a'r dwyrain yw Gweriniaeth El Salfador neu El Salvador (Sbaeneg: República de El Salvador, /re'puβlika ðe el salβa'ðor/).

Ffeithiau sydyn Arwyddair, Math ...
Remove ads

Hanes

Prif: Hanes El Salfador

Gorchfygwyd El Salfador, oedd yn rhan o'r Deyrnas Astecaidd, gan y Sbaenwyr yn 1526, ac enillodd annibyniaeth yn 1821. Roedd yn aelod o Ffederasiwn Canolbarth America tan ei ddiddymiad yn 1839, a daeth yn weriniaeth yn 1841. Yng nghanol yr ugeinfed ganrif rheolwyd y wlad gan unbenaethau a dioddefodd o ansefydlogrwydd gwleidyddol. Bu wrthdaro â Hondwras yn 1965 ac yn Rhyfel Pêl-droed 1969. Parhaodd yr ansefydlogrwydd gwleidyddol i'r 1970au gyda gweithredoedd herwfilwrol yn erbyn y llywodraeth a gefnogwyd gan yr Unol Daleithiau. Yn dilyn bradlofruddiaeth Archesgob El Salfador Óscar Romero yn 1980 dechreuodd Rhyfel Cartref El Salfador, lle bu farw 75 000 a daeth nifer yn ffoaduriaid. Arwyddwyd cytundeb heddwch yn 1992; o dan delerau'r cadoediad cydnabuwyd y grŵp herwfilwrol asgell chwith Frente Farabundo Martí para la Liberación Nacional (FMLN) fel plaid wleidyddol ac aethant ymlaen i ennill seddi yn etholiadau deddfwriaethol 1994, pan ddaeth yr Alianza Republicana Nacionalista (ARENA) asgell dde i rym. Achosodd ddaeargrynfeydd difrod eang yn 2001.

Remove ads

Gwleidyddiaeth

Prif: Gwleidyddiaeth El Salfador

Llywodraethir El Salfador gan Arlywydd a etholir pob pum mlynedd, a Chynulliad Cenedlaethol democrataidd gyda 60 o aelodau.

Daearyddiaeth

Prif: Daearyddiaeth El Salfador

Mae dwy gadwyn folcanig sy'n llwybro o ddwyrain i orllewin El Salfador yn rhannu'r wlad yn dri rhanbarth daearyddol: llain gul arfordirol yn y de, dyffrynnoedd a llwyfandiroedd ucheldirol gydag uchder cyfartalog o 600 m yng nghanolbarth y wlad, a mynyddoedd yn y gogledd (gyda Santa Ana (2381 m) fel man uchaf y wlad). Mae'r Afon Lempa, sy'n croesi ffin ogleddol El Salfador â Hondwras a gyda'i tharddle yng NGwatemala, yn rhedeg yn ddeheuol trwy'r wlad i'r Cefnfor Tawel. Mae nifer o lynnoedd folcanig yn El Salfador, ac mae daeargrynfeydd yn gyffredin. El Salfador yw'r unig wlad yng Nghanol America heb arfordir ar Gefnfor yr Iwerydd.

Adrannau a bwrdeistrefi

Prif: Adrannau El Salfador a Bwrdeistrefi El Salfador
Gweler hefyd: Rhestr dinasoedd El Salfador.
Thumb
Adrannau El Salfador

Rhannir El Salfador yn 14 o adrannau (departamentos), a phob un adran wedi'i isrannu'n 267 o fwrdeistrefi (municipios). Yr adrannau yw:

  1. Ahuachapán
  2. Cabañas
  3. Chalatenango
  4. Cuscatlán
  5. La Libertad
  6. La Paz
  7. La Unión
  1. Morazán
  2. San Miguel
  3. San Salvador
  4. San Vicente
  5. Santa Ana
  6. Sonsonate
  7. Usulután
Remove ads

Demograffeg

Prif: Demograffeg El Salfador

Mae tua 7 miliwn o bobl yn byw yn El Salfador; 90% ohonynt yn mestizo (hil gymysg), 9% yn wyn ac 1% yn frodorol. El Salfador yw'r wlad gyda'r dwysedd poblogaeth mwyaf yng Nghanolbarth America (318.7/km²). Mae 62% o'r boblogaeth yn byw mewn ardaloedd trefol a 38% yn byw yng nghefn gwlad.[1] Mae 80% o Salfadoriaid yn Gatholigion Rhufeinig, 18% yn efengylaidd a 2% yn grefydd arall neu ddim yn dilyn crefydd o gwbwl.[1]

Remove ads

Twristiaeth

Prif: Twristiaeth yn El Salfador

[1] Mae nifer y twristiaid sy'n ymweld ag El Salfador wedi cynyddu yn sgil dyfodiad heddwch i'r wlad yn y blynyddoedd diweddar, gyda'r mwyafrif yn dod i fwynhau cyrchfannau arfordirol a thraethau El Salfador. Ond mae trosedd, daeargrynfeydd a chostau uchel am ystafelloedd a theithiau awyr dal i rwystro'r diwydiant.

Bu nifer y twristiaid yn cynyddu 29% yn 2002 i 951 000 o ymwelwyr, tua un am bob 6.8 Salfadoriad. Daeth 31% ohonynt o Gwatemala, 22% o Unol Daleithiau America, 17% o Hondwras a'r 30% gweddill o wledydd eraill.

Remove ads

Addysg

Prif: Addysg yn El Salfador

[1] Seilir cyfundrefn addysg El Salfador ar yr un Americanaidd. Y lefel llythrennedd yw 79%; mae addysg wedi'i chyfyngu mewn ardaloedd gwledig. Mae gan El Salfador 118 491 o fyfyrwyr (2004), a'r oedran i adael ysgol yw 15.

Cyfeiriadau

Cysyllltiadau allanol

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads