Ffoadur

math o berson wedi'i dadleoli From Wikipedia, the free encyclopedia

Ffoadur
Remove ads

Person sy'n ffoi rhag rhywbeth neu'i gilydd yw ffoadur (Saesneg: refugee), sy'n gwbwl wahanol i'r mewnfudwr anghyfreithlon.[1]

Ffeithiau sydyn Enghraifft o:, Math ...
Thumb
Ffoaduriaid o Syria ac Affganistan yn Dobova, Slofenia, 23 Hydref 2015
Thumb
Gwersyll i ffoaduriaid Rwandaidd yn Saïr, 1994

Gelwir person sy'n ceisio gael ei adnabod fel ffoadur yn geisiwr lloches.

'Cenedl Noddfa - fideo-animeiddiad gan Lywodraeth Cymru.

Arweinir cydgordio mewn argyfwng gan Gomisiynydd y Cenhedloedd Unedig dros Ffoaduriaid (UNHCR). Ar Ragfyr 2006, y gwledydd oedd â'r niferoedd mwyaf o ffoaduriaid oedd: Palesteina, Affganistan, Irac, Myanmar a Swdan. Y flwyddyn honno roedd 8.4 miliwn o ffoaduriaid wedi cofrestru'n swyddogol ledled y byd - y swm lleiaf ers 1980.[2] Erbyn 2015 roedd adroddiad gan UNHCR yn datgan fod 21.3 miliwn: 16.1 dan ofalaeth UNHCR a 5.2 miliwn o Balisteiniaid, dan ofalaeth UNRWA. Y grŵp mwyaf yn 2015 oedd y ffoaduriaid o Syria (4.9 miliwn).[3] Y flwyddyn cyn hynny, o Affganistan y daeth y grŵp mwyaf, yn flynyddol am y 30 mlynedd cyn hynny.[4] Yn 2016 y gwledydd a wedi cymryd y mwyaf o ffoaduriaid, yn ôl UNHCR, oedd Twrci (2.5 miliwn), Pacistan (1.6 miliwn) a Libanus (1.1 miliwn).[3] Yn 2015, roedd cyfanswm y ffoaduriaid ledled y byd yn uwch nag a fu ar unrhyw gyfnod arall (ers cadw cofnodion).[5]

Remove ads

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads