Eldra

ffilm ddrama a gyhoeddwyd yn 2002 From Wikipedia, the free encyclopedia

Remove ads

Ffilm Gymraeg yw Eldra a ryddhawyd yn 2002. Cafodd y ffilm ei chyfarwyddo gan Tim Lyn a'i chynhyrchu gan Bethan Eames.

Ffeithiau sydyn Cyfarwyddwr, Cynhyrchydd ...

Cynhyrchwyd y ffilm Gymraeg Eldra gan Teliesyn i S4C. Ysgrifennwyd y script gan Marion Eames gydag Eldra Jarman y Sipsi yn adrodd ei hatgofion iddi.

Cyfansoddwyd a chanwyd y delyn deires sy'n gefndir cerddorol i'r ffilm gan Robin Huw Bowen. Eldra ddysgodd alwaon y sipsiwn iddo.

Remove ads

Crynodeb

Mae'r ffilm wedi'i lleoli ym Bethesda, Gwynedd yn y 1930au, cartref dros dro i Eldra, sipsi ifanc. Mae bywyd y ferch ifanc yn ymddangos fel un siwrnai hir; lle mae hud a lledrith yn chwarae rhan annatod o drefn naturiol bywyd.

Ond nid yn unig mae'n rhaid i Eldra ddysgu am fywyd Romani, mae'n hanfodol iddi hefyd ddeall cyfyngiadau realti bywyd ei chyfeillion newydd a'r gormes sydd yn bodoli o fewn trefn gymdeithasol ardal y chwareli.

Remove ads

Cast a chriw

Prif gast

Cydnabyddiaethau eraill

  • Gwisgoedd – Pam Moore

Manylion technegol

Tystysgrif ffilm: Untitled Certificate
Fformat saethu: 35mm
Math o sain: Dolby Stereo
Lliw: Lliw
Cymhareb agwedd: 1.85:1
Gwobrau:
Rhagor o wybodaeth Gŵyl ffilmiau, Blwyddyn ...

Llyfryddiaeth

Dolenni allanol

Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun o'r cofnod Eldra ar yr Esboniadur, adnodd addysgiadol agored gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae gan y cofnod penodol hwnnw'r drwydded agored CC BY 4.0; gweler testun y drwydded am delerau ail-ddefnyddio'r gwaith.
Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads