Tim Lyn

actor a chyfarwyddwr ffilm a theledu o Gymru (ganwyd 1962) From Wikipedia, the free encyclopedia

Tim Lyn
Remove ads

Actor a chyfarwyddwr ffilm a theledu o Gymro, yw Tim Lyn neu Timothy Lyn (ganwyd 1962).[1] Bu'n actio yn rhai o gyfresi a ffilmiau cynnar S4C fel Milwr Bychan (1987) ac Owain Glyndŵr (1983) a'r gyfres Heros (1989) a ffilmiwyd yn Awstralia gyda Jason Donovan. Bu'n cyfarwyddo a chyd-greu nifer o gyfresi a ffilmiau poblogaidd S4C fel Treflan, Pris y Farchnad, Tydi Coleg Yn Grêt, Eldra, Cylch Gwaed a Sgwâr Y Sgorpion. Enillodd wobr BAFTA Cymru i'r Cyfarwyddwr Gorau am y rhaglen Eirlys, Dementia a Tim yn 2020[2] a'r gyfres ddrama Fondue, Rhyw a Deinosors yn 2002.[3]

Ffeithiau sydyn Ganwyd, Dinasyddiaeth ...

Derbyniodd ei addysg yng Ngholeg Llanymddyfri ac Ysgol Gelf Caerfyrddin gan astudio ffotograffiaeth.[4]

Mae'n fab i'r actor a'r cyfarwyddwr David Lyn. Bu'n briod â'r actores Judith Humphreys. Ymgartrefodd yn Llandwrog, Caerdydd a Llansteffan.

Remove ads

Gyrfa fel actor

Gyrfa fel cyfarwyddwr

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads