Felicity Jones

actores a aned yn 1983 From Wikipedia, the free encyclopedia

Felicity Jones
Remove ads

Mae Felicity Rose Hadley Jones (ganed 17 Hydref 1983) yn actores Seisnig. Dechreuodd ei gyrfa actio broffesiynol fel plentyn, yn ymddangos yn The Treasure Seekers (1996) yn 12 mlwydd oed. Aeth yn ei blaen i chwarae Ethel Hallow mewn un gyfres o'r rhaglen deledu The Worst Witch a'i dilyniant Weirdsister College. Cymerodd amser o actio tra'n mynychu Coleg Wadham, Rhydychen, ond y mae wedi gweithio'n rheolaidd ers graddio yn 2006. Ar y radio, fe'i hadnabyddir am chwarae'r rôl Emma Grundy yn The Archers. Yn 2008, ymddangosodd yng nghynhyrchiad y Donmar Warehouse o The Chalk Garden.

Ffeithiau sydyn Ganwyd, Dinasyddiaeth ...

Ers 2006 mae Jones wedi ymddangos mewn nifer o ffilmiau, gan gynnwys Northanger Abbey (2007), Brideshead Revisited (2008), Chéri (2009), a The Tempest (2010).

Canmolwyd ei pherfformiad yn y ffilm 2011 Like Crazy ac enillodd sawl gwobr gan gynnwys gwobr arbennig y beirniaid yng Ngŵyl Ffilmiau Sundance yn 2011. Yn 2014, fe'i chanmolwyd eto ar gyfer ei pherfformiad fel Jane Hawking yn The Theory of Everything, ac fe'i henwebwyd ar gyfer Gwobrau Glôb Aur, SAG, BAFTA, ac Academi ar gyfer yr Actores Orau.

Remove ads

Bywyd cynnar

Ganwyd a magwyd Jones yn Bournville, maestref gefnog yn Birmingham, yn ferch i Julia (yn gynt Hadley), a Gareth Jones. Ei hewythr yw'r actor Michael Hadley. Mae ganddi un brawd. Roedd ei thad yn newyddiadurwr ac roedd ei mam yn gweithio yn y diwydiant hysbysebu.[1] Ysgarodd ei rhieni pan roedd yn dair mlwydd oed, a fe'i magwyd gan fam sengl.[1][2][3]

Ar ôl mynychu Ysgol Ferched Kings Norton, mynychodd Jones Ysgol Handsworth King Edward VI tra'n astudio ar gyfer ei lefelau-A ac aeth yn ei blaen i gymryd blwyddyn allan (yn ystod y flwyddyn ymddangosodd yng nghyfres y BBC Servants). Astudiodd Saesneg yng Ngholeg Wadham, Rhydychen, yn graddio gyda gradd ail ddosbarth uwch yn 2006. Tra'n astudio Saesneg, ymddangosodd mewn dramâu myfyrwyr, gan Attis lle chwaraeoedd y rôl deitl,[4] ac, yn 2005, The Comedy of Errors gan Shakespeare ar gyfer taith haf yr OUDS i Siapan, yn serennu gyda Harry Lloyd.

Thumb
Jones yng Ngŵyl Ffilmiau Ryngwladol Toronto 2014
Remove ads

Bywyd personol

Yn 2013, gwahanodd Jones o'i chariad Ed Fornieles, roedd wedi bod gyda'i gilydd am ddeng mlynedd. Gweithiai Fornieles fel cerflunydd ac artist ar y we.[2][5] Cwrddodd y ddau tra roedd Jones yn astudio ym Mhrifysgol Rhydychen ac roedd Fornieles yn astudio yn Ysgol Gelf Ruskin.[2][6]

Ffilmyddiaeth

Teledu

Rhagor o wybodaeth Blwyddyn, Teitl ...

Ffilmiau

Rhagor o wybodaeth Blwyddyn, Teitl ...

Theatr

  • The Snow Queen, Cwmni Theatr Creation (2005–06), Gerda[7]
  • That Face, Theatr y Llys Brenhinol (2007), Mia
  • The Chalk Garden, Donmar Warehouse (2008), Laurel
  • Luise Miller, Donmar Warehouse (2011), Luise Miller

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads