Ffiseg

From Wikipedia, the free encyclopedia

Ffiseg
Remove ads

Mae ffiseg (o'r Groeg φυσικός, "naturiol", a φύσις, "natur") neu anianeg (term hynafol am "ddeddfau neu drefn natur") yn gainc o'r astudiaeth wyddonol o fyd natur er mwyn deall sut mae'r bydysawd yn gweithio. Astudiaeth o fater ydyw ynghyd â chysyniadau perthnasol eraill e.e. ynni a grym a'i amcan yw canfod y deddfau sylfaenol sy'n llywodraethu mater, ynni, gofod ac amser.[1][2]

Ffeithiau sydyn Enghraifft o:, Math ...
Ffeithiau sydyn Canghennau, Meusydd Ymchwil ...

Mae ffiseg yn:

  • disgrifio cyfansoddiad elfennol y bydysawd;
  • disgrifio'r rhyngweithiadau rhwng elfennau'r bydysawd;
  • dadansoddi systemau drwy ddefnyddio egwyddorion sylfaenol.

Gwneir defnydd helaeth o gydberthnasau mathemategol i ddisgrifio deddfau ffiseg.

Mae ffisegwyr yn cymryd yn ganiataol bodolaeth mas, hyd, amser, cerrynt trydanol a thymheredd ac oddi wrth y rhain yn gallu diffinio pob maint ffiseg arall.

Remove ads

Hanes ffiseg

Ffiseg yw'r wyddoniaeth o mater, ymddygiad y mater a mudiant. Dyma un o'r disgyblaethau gwyddonol hynaf. Yr hen Roegwr Aristotlys a gyfansoddodd y gwaith ysgrifenedig cyntaf am ffiseg.

Yng Nghymru, sefydlwyd cadair ffiseg ym Mhrifysgol Aberystwyth yn 1877, Caerdydd yn 1883 a Bangor yn 1884.

Nod a chwmpas

Mae ffiseg yn cwmpasu ffenomenau eang, o'r gronynnau is-atomig bychan, i'r galaethau anferthol. Mae'r gwrthrychau mwyaf syml yn cael eu cynnwys mewn ffiseg ac felly dywedir fod ffiseg yn "wyddoniaeth sylfaenol". Mae ffiseg yn ceisio disgrifio ffenomena amrywiol sy'n digwydd mewn natur mewn termau syml. Felly, mae ffiseg yn bwriadu cysylltu'r pethau pob dydd yr ydym yn eu gweld o’n cwmpas i darddiad yr achos yn y gobaith o ffeindio'r rheswm eithafol ar gyfer ein bodolaeth. Er enghraifft, roedd y Tsieineaid hynafol wedi arsylwi bod yna rymoedd anweledig rhwng mathau gwahanol o greigiau. Adnabyddir yr effaith yma erbyn hyn fel magneteg neu magnetedd. Yn gynharach darganfu'r Groegwyr hynafol drydan wrth rwbio gwefr efo ffwr. Roedd datblygiadau technoleg yn yr 19g wedi dangos cysylltiad rhwng y ddwy theori. Gelwir hyn yn electromagnetedd.

Remove ads

Canghennau ffiseg

Yn aml, cai meysydd eu trefnu fel a ganlyn.

  • atomau, niwclysau a mater
  • deinameg a pherthnasedd
  • dirgryniadau a thonnau
  • meysydd electrig a magneteg
Thumb
Prif meysydd ffiseg

Mae gan ffiseg berthynas agos â'r gwyddorau naturiol eraill, yn enwedig cemeg. Gelwir cemeg ar sawl maes yn ffiseg, yn enwedig mecaneg cwantwm, thermodynameg ac electromagnetedd. Er hynny, mae ffenomenau cemeg yn ddigon amrywiol a chymhleth i drin cemeg fel disgyblaeth ar wahân. Sut bynnag, derbyniwyd yn gyffredinol gan gemegwyr a ffisegwyr taw deddfau ffiseg sy'n disgrifio camau sylfaenol pob rhyngweithiad cemegol.

Rhai gwyddonwyr Ffiseg o Gymru

  • Granville Beynon prifysgolion Abertawe ac Aberystwyth; astudio'r ionosffer a'r magnetosffer.
  • David Brunt Cyfarwyddwr Swyddfa Dywydd Gwledydd Prydain, tad y rhagolygon tywydd modern.
  • Donald Watts Davies dyfeisydd y swits pecynnau, trosglwyddo data.
  • E H Griffiths Athro Ffiseg Prifysgol Caerdydd.
  • Ezer Griffiths cynhwysedd thermol metalau.
  • David Edward Hughes y cyntaf yn y byd i ddarlledu a derbyn signalau radio.
  • Brian David Josephson (ganed 1940) ffiseg lled-ddargludyddol. Enillydd Gwobr Nobel (1973).
  • Frank Llewellyn Jones Prifysgol Abertawe; ioneiddio.
  • William Preece cydweithiwr Marconi; prif beiriannydd y Swyddfa Bost.
  • Graham Sutton studio'r tywydd a chyfrifiadureg.
  • John Viriamu Jones Athro Ffiseg Prifysgol Caerdydd cyntaf.
  • Evan James Williams adfeiliad y mwon.
  • Phil Williams ffiseg yr haul a'r ddaear.
  • Ifan G Hughes - ffiseg golau a cwantwm
Remove ads

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads