Ffwythiannau trigonometrig
From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Mewn mathemateg, mae ffwythiannau trigonometrig yn ffwythiannau onglau. Defnyddir y ffwythiannau yma i gysylltu onglau triongl (triongl ongl sgwâr gan fwyaf) i hyd ymylon y triongl. Y ffwythiannau mwyaf poblogaidd yw sin, cosin a tangiad, sy'n byrhau i sin, cos a tan.

Mae gan y ffwythiannau yma nifer o ddefnyddiau yn y meysydd cyfeiriadu, peirianneg a ffiseg nid yn unig o fewn yr astudiaeth o drionglau, ond hefyd mewn modelu ffenomenâu cyfnodol.
Remove ads
Diffiniadau triongl ongl sgwâr

I ddiddwytho ongl A, enwir yr ochrau fel y canlynol:
- Yr hypotenws yw'r ochor gyferbyn ar ongl sgwâr, yn yr achos yma h. Yr hypotenws yw'r ochor sydd ar hyd fwyaf.
- Yr ochor cyferbyn yw'r ochor gyferbyn i'r ongl yr ydym am ei ddarganfod. Yn yr achos yma a.
- Yr ochor cyfagos yw'r ochor sydd rhwng yr ongl yr ydym am ei ddarganfod ar ongl sgwâr. Yn yr achos yma b.
Remove ads
Unfathiannau
Mae yna nifer o unfathiannau yn bodoli sy'n cydberthyn y ffwythiannau trigonometrig. Dyma'r un a defnyddir fwya' aml.
Perthnasau arall sy'n bodoli yw'r fformiwlâu swm a gwahaniaeth.
Pan mae dwy ongl yn hafal, mae'r swm y fformiwlâu yn symleiddio i hafaliadau a adnabyddir fel y double-angle formulae.
Calcwlws
Mae'r tabl yma yn dangos integriadau a differiadau ffwythiannau trigonometreg.
Remove ads
Ffwythiannau gwrthdro
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads