Florida

talaith yn Unol Daleithiau America From Wikipedia, the free encyclopedia

Florida
Remove ads

Un o daleithiau dwyreiniol Unol Daleithiau America yw Talaith Florida neu Florida, neu weithiau'n Gymraeg: Fflorida,[1] gorynys fawr rhwng y Cefnfor Iwerydd a'r Gwlff Mecsico. Fe enwodd Juan Ponce de León y dalaith yn 1513. Ym 1763 bu Prydain yn ffeirio Cuba am Florida wedi i'r Prydeinwyr meddiannu dinas La Habana/Hafana. Symudwyd y boblogaeth Sbaeneg i Guba wedyn. Yn 2010 roedd y boblogaeth yn 18,801,310.[2]

Ffeithiau sydyn Arwyddair, Math ...

Mae gan y dalaith arwynebedd o 65,755 milltir sgwâr (170,305 km2), a dyma yw'r 22 dalaith fwyaf o ran maint o holl daleithiau'r Unol Daleithiau. Mae gan Florida yr arfordir cydgyffyrddol hiraf yn yr Unol Daleithiau, yn gorchuddio tua 1,350 o filltiroedd (2,170 km). Ceir pedair ardal ddinesig fawr, nifer o ddinasoedd diwydiannol llai o ran maint, a nifer o drefi bychain yno.

Roedd Florida’r 27ain o’r taleithiau i ymuno â’r Unol Daleithiau ym 1845. Prifddinas y dalaith yw Tallahassee.

Thumb
Florida yn yr Unol Daleithiau

O’r 19g ymlaen daeth pobl o daleithiau eraill, denwyd gan dywydd cynhesach Florida. Erbyn y 20g roedd twristiaeth wedi dod yn bwysig i Florida. Agorwyd Disney World ym 1971. Mae ganddo maint o 30,500 o aceri, ac yn denu tua 46 miliwn o ymwelwyr bob blwyddyn.[3]

Mae Canolfan Ofod Kennedy wedi bod yn allweddol i gyflawniadau’r Unol Daleithiau yn y maes Gofod ac hefyd yn denu twristiaid.

Mae gan Florida gorsydd mawr. Yr un mwyaf yw Cors Everglades. Rhennir un arall, Cors Okefenokee, efo Georgia.

Remove ads

Dinasoedd Florida

1Jacksonville813,518
2Miami399,457
3Tampa345,556
4St. Petersburg248,098
5Orlando235,860
6Tallahassee172,574
7Fort Lauderdale184,892
8Melbourne76,068
9Pensacola76,068
10Key West25,478
11Lake Wales12,071

Cyfeiriadau

Dolenni allanol

Oriel

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads