Frances Shand Kydd
pendefig (1936-2004) From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Roedd yr Anrhydeddus Frances Ruth Burke Roche Shand Kydd (20 Ionawr 1936 – 3 Mehefin 2004) yn gyn-wraig i John Spencer, 8fed Iarll Spencer ac yn fam i Diana, Tywysoges Cymru. Ar ôl dwy briodas a aeth ar chwal a marwolaeth dwy o'i phlant, fe dreuliodd ei blynyddoedd diwethaf yn gwneud gwaith elusennol Catholig.
Remove ads
Early life
Cafodd ei geni yn Sandringham, Norfolk, Lloegr o dan yr enw Frances Ruth Burke-Roche yn Park House, ar ystad brenhinol Sandringham, Norfolk. Roedd yn ferch i Edmund Roche, 4ydd Barwn Fermoy, a oedd yn ffrindiau gyda'r Brenin Siôr VI ac yn fab i hŷn i'r etifeddes Americanaidd, Frances Work a'i gŵr cyntaf, 3ydd Barwn Fermoy. Roedd ei mam Ruth, Bonesig Fermoy DCVO yn confidante a lady-in-waiting i'r Frenhines Elizabeth (a adnabyddwyd fel Mam y Frenhines yn ddiweddarach).
Remove ads
Priodas gyda John, 8fed Iarll Spencer
Ar 1 Mehefin 1954, yn 18 oed, priododd Roche John Spencer (8fed Iarll Spencer yn ddiweddarach) yn Abaty Westminster. Adnabyddwyd hi fel Is-iarlles Althorp (a ynganir fel Altrup).
Cawsont bump o blant:
- Elizabeth Sarah Lavinia Spencer (19 Mawrth 1955), a briododd Neil Edmund McCorquodale, cefnder pell i Raine, Iarlles Spencer
- Cynthia Jane Spencer (11 Chwefror 1957), a briododd Syr Robert Fellowes, Barwn Fellowes yn ddiweddarach
- John Spencer, a bu farw o fewn 10 awr o'i eni ar 12 Ionawr 1960
- Diana Frances Spencer, Diana, Tywysoges Cymru yn ddiweddarach (1 Gorffennaf 1961 – 31 Awst 1997), gwraig gyntaf Siarl, Tywysog Cymru
- Charles Edward Maurice Spencer, 9fed Iarll Spencer (20 Mai 1964), a briododd Victoria Lockwood, ac wedyn Caroline Freud (gweddw Matthew Freud)
Remove ads
Llinach
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads