Gŵyl Machynlleth

gwyl lenyddol a cherddorol Machynlleth From Wikipedia, the free encyclopedia

Gŵyl Machynlleth
Remove ads

Mae Gŵyl Machynlleth (Machynlleth Festival) yn ŵyl flynyddol sy'n cael ei chynnal yn Awditoriwm Y Tabernacl, Machynlleth, ddiwedd mis Awst.[1][2] Yn ystod yr wythnos mae perfformwyr amlwg yn cymryd rhan mewn digwyddiadau sy'n amrywio o ddatganiadau i blant i jazz.

Thumb
Y Tabernacl

Ni ddylid drysu â Gŵyl Gomedi Machynlleth sy'n cael ei chynnal ym mis Mai ac sy'n ŵyl iau ac yn annibynnol o Ŵyl Machynlleth. Saesneg yw prif gyfrwng digwyddiadau'r Ŵyl.

Remove ads

Y Digwyddiad

Mae'r ŵyl yn cychwyn gyda Chymanfa Ganu.[3] Ymhlith y nodweddion arbennig mae Darlith Hallstatt ar ryw agwedd ar ddiwylliant Celtaidd.

Gwobr Glyndŵr

Thumb
Gwobr Glyndŵr 2014

Rhoddir Gwobr Glyn Dŵr am Gyfraniad Eithriadol i'r Celfyddydau yng Nghymru yn ystod yr ŵyl.[1] Ymysg cyn-enllwyr Gwobr Glyn Dŵr mae; Kyffin Williams (1995), Jan Morris (1996), Gerallt Lloyd Owen (2002), Mererid Hopwood (2011), Karl Jenkins (2018).

Perfformwyr

Ymhlith y perfformwyr yn nhri Gŵyl Machynlleth gyntaf roedd y tenor Paul Agnew, y bas-bariton Bryn Terfel (1989) a'r tenor Rhys Meirion (2020). Ymhlith perfformwyr yr Ŵyl yn ystod yr ychydig flynyddoedd nesaf roedd: Alan Skidmore, sacsoffonydd tenor, 1990; Bernard Roberts, pianydd, a Kit a The Widow, 1991; a Robin Williamson o'r Incredible String Band, 1992.

Ceir amrywiaeth eang o berfformiadau clasurol gan offerynwyr a chantorion tramor a Chymreig gan gynnwys Elin Manahan Thomas yn 2019. Ceir hefyd ganu corawl, bandiau Klezmer, sioeau hanes a drama.[4]

Roedd y canwr Jazz George Melly a'r trombonydd Christian Lindberg ymhlith uchafbwyntiau 1996.

Dolenni

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads