Machynlleth
tref a chymuned ym Mhowys From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Tref a chymuned yng ngogledd-orllewin Powys, Cymru, yw Machynlleth[1][2] ( ynganiad ). Saif ger aber Afon Dyfi. Mae ganddi boblogaeth o 2,235 (2011),[3][4] 2,163 (2021),[5] 2,161 (2021),[6] 2,147 (2001)[7]. Ei hadeilad enwocaf yw Senedd-dy Owain Glyn Dŵr. Mae marchnad bwysig yn y dref pob dydd Mercher.
Mae gan y dref glwb pêl-droed ers 1885, C.P.D. Machynlleth sy'n chwarae yn Cae Glas. Agorwyd siop gyntaf Laura Ashley yma ym Machynlleth yn 35 Heol Maengwyn, a hynny yn 1961.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Russell George (Ceidwadwyr)[8] ac yn Senedd y DU gan Steve Witherden (Llafur).[9] Mae Caerdydd 131.5 km i ffwrdd o Machynlleth ac mae Llundain yn 283.2 km. Y ddinas agosaf ydy Bangor sy'n 73 km i ffwrdd.
Remove ads
Hanes
Cynhaliodd Owain Glyndŵr senedd ym Machynlleth yn 1404. Yno, yng ngwydd llysgenhadon o Ffrainc, Yr Alban a Sbaen, coronwyd Owain yn Dywysog Cymru. Llys Maldwyn yn Heol-y-Doll oedd lleoliad Vane Infant School hyd at 1852.
Cyfrifiad 2011
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[10][11][12]
Remove ads
Adeiladau a chofadeiladau
- Cloc y dref
- Garsiwn ("Ty Frenhinol")
- Gorsaf reilffordd Machynlleth
- MOMA, Wales
- Plas Machynlleth
- Senedd-dy Owain Glyn Dŵr
- Y Tabernacl
Pont-ar-Ddyfi a Phont Ddyfi Newydd
Crybwyllir 'Pont ar Ddyfi' am y tro cyntaf yn 1533, gan Geoffrey Hughes yn ei gyfrol "Citizen and Merchant taylour of London" a adawodd £6 13s 4d (deg marc) i godi'r bont. Erbyn 1601 dywedwyd nad oedd "pont Ddyfi yng Nghantref Mochunleth" yn ddigonol, ac adeiladwyd yr un presennol yn 1805 am gost o £250.
Ar 13 Ionawr 2020, cymeradwyodd y Llywodraeth Cymru adeiladu pont newydd ar draws Afon Dyfi. Agorwyd y ffordd newydd yn 2023 a chostiodd tua £46 miliwn, arianwyd y gwaith gan Lywodraeth Cymru.[13] Roedd yr hen bont dan lifogydd yn aml pan oedd llif yr afon yn gryf ond mae'r broblem hon bellach wedi'i datrys.
Hamdden
Mae anturiaethau awyr agored yn boblogaidd yn yr ardal ac yn denu twristiaid. Lleolir Coedwig Dyfi i'r gogledd o'r dref sy'n cynnwys sawl llwybr cerdded a llwybr beicio mynydd.
Digwyddiadau
Cynhelir dau ŵyl flynyddol o bwys yn y dref:
- Gŵyl Machynlleth - mis Awst
- Gŵyl Gomedi Machynlleth - mis Mai
Enwogion
- Llawdden, bardd canoloesol (fl. 1450) a fu'n byw ym Machynlleth
- John Evans (gwleidydd Columbia Brydeinig) (1816–1879)
- Emrys James (1928-1989), actor
- Gareth Glyn (g. 1951), cyfansoddwr
Eisteddfod Genedlaethol
Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol ym Machynlleth ym 1937 a 1981. Am wybodaeth bellach gweler:
Oriel

- Plas Machynlleth tua 1885
- Y Stryd Fawr
- Cloc y dref
- Pont ar Ddyfi, ger y dref
- Mynwent yr eglwys
- Adeilad ar draws y ffordd i'r fynwent, ger y gofeb rhyfel
- Tafarn y Llew Gwyn
- Adeilad hynafol ym Machynlleth
- Y gofeb rhyfel
- Enwau'r milwyr a laddwyd
Cyfeiriadau
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads