Gavrilo Princip

From Wikipedia, the free encyclopedia

Gavrilo Princip
Remove ads

Llofrudd yr Archddug Franz Ferdinand a'i wraig Sofía Chotek oedd Gavrilo Princip (25 Gorffennaf 1894 - 28 Ebrill 1918). Trwy hyn, dechreuodd y gyfres o ddigwyddiadau a arweiniodd at ddechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf.

Ffeithiau sydyn Ganwyd, Bu farw ...
Remove ads

Ganed Princip yn Obljaj, Bosnia a Hertsegofina. Roedd yn aelod o'r cylch "Bosnia Ieuanc", oedd dan reolaeth "Y Llaw Ddu", plaid oedd yn dymuno uno Bosnia gyda Serbia. Ar 28 Mehefin 1914, roedd yr Archddug Franz Ferdinand, aer coron ymerodraeth Awstria-Hwngari, yn ymweld â Sarajevo. Saethwyd ef a'i wraig gan Princip, a buont farw yn fuan wedyn.

Ceisiodd Princip ei ladd ei hun, ond methodd, a chymerwyd ef i'r ddalfa gan yr heddlu. Dedfydwyd ef i garchar am oes, a bu farw o'r diciâu yng ngharchar yn 1918.

Remove ads

Cyfeiriadau

Loading content...
Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads